Rhys ap Dafydd ab Einion

Oddi ar Wicipedia

Un o Feirdd yr Uchelwyr oedd Rhys ap Dafydd ab Einion (fl. 14g).

Cefndir[golygu | golygu cod]

Ni wyddys dim o gwbl am y bardd. Ceir tri gŵr a rannai'r un enw yng nghofnodion y 14g, o Bowys a Sir Gaerfyrddin, ond nid oes modd uniaethu'r bardd â'r un ohonynt.[1]

Cerdd[golygu | golygu cod]

Un gerdd yn unig gan Rhys sydd wedi goroesi. Cyfres o ddeg englyn dychan i un o'r enw Sawl ydyw. Cedwir y testun cynharaf yn adran farddoniaeth Llyfr Coch Hergest (tua 1400). Dychenir Sawl fel lleidr a dihiryn sy'n haeddu ei grogi: byddai pawb yn falch o glywed ei farwnad. Dyma'r englyn agoriadol (mae Sawl yn y carchar):

Pwy wyd, mab gwrab girad,—corgïan
Mywn cwr geol gaead?
Mab i'r butain wain wibiad,
Ni ŵyr Sawl, faw diawl, ei dad.[1]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Huw Meirion Edwards (gol.), Gwaith Prydydd Breuan a cherddi dychan eraill o Lyfr Coch Hergest (Aberystwyth, 2000). 'Cyfres Beirdd yr Uchelwyr'.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Huw Meirion Edwards (gol.), Gwaith Prydydd Breuan a cherddi dychan eraill o Lyfr Coch Hergest.