Huw Cornwy

Oddi ar Wicipedia
Huw Cornwy
Ganwyd1540s Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata
Blodeuodd1580 Edit this on Wikidata

Un o Feirdd yr Uchelwyr oedd Huw Cornwy (bl. 1545 - 1596). Er na ellir profi hynny'n derfynol, y mae'n debyg ei fod yn frodor o blwyf Llanfair-yng-Nghornwy ar Ynys Môn.[1]

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Canodd gerddi mawl a marwnadau traddodiadol i rai o deuluoedd uchelwrol amlycaf y cyfnod ym Môn, yn cynnwys teulu Rhydderch o blasty Myfyrian a theulu Meurig (Meyrick) o Fodorgan.[1]

Graddiodd yn ddisgybl pencerddaidd yn Eisteddfod Caerwys 1567; ei gyd-raddedigion oedd Siôn Tudur, Lewis Menai, Huw Llŷn, Wiliam Cynwal, Bedo Hafesb a Siôn Phylip. Does dim cofnod ohono'n raddio'n bencerdd ond gan y disgwylid i ddisgybl pencerddaidd wneud hynny o fewn tair blynedd mae'n debyg y cafodd ei radd fel pencerdd mewn neithior erbyn tua 1570.[1]

Cymerodd ran mewn ymryson barddol gyda Rhydderch ap Rhisiart o Fyfyrian.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru.