Myfyrian
Math | ffermdy |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Llanfihangel Ysgeifiog |
Sir | Llanfihangel Ysgeifiog |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 38 metr |
Cyfesurynnau | 53.205231°N 4.290438°W |
Cod post | LL60 6NW |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Plasty bychan ar Ynys Môn yw Myfyrian. Mae'n goroesi heddiw fel ffermdy sylweddol ym mhlwyf Llanidan, tua 4 milltir i'r de o dref Llangefni a thua 2 filltir i'r gorllewin o bentref Llanddaniel Fab yn ne-orllewin yr ynys.
Am bum cenhedlaeth o ddechrau'r 16g hyd ganol yr 17g bu teulu Myfyrian ymhlith yr amlycaf o noddwyr beirdd a cherddorion Môn. Hyd y gwyddys, cychwynnwyd y traddodiad gan Rhydderch ap Dafydd (m. 1561 neu 1562). Bu'r bardd Lewis Menai yn fardd teulu Myfyrian yng nghyfnod ei fab, Rhisiart ap Rhydderch (m. 1576). Bu ei fab Rhydderch ap Rhisiart yn fardd a noddwr.
Roedd y beirdd a chroesewid ar yr aelwyd ar eu cylchoedd clera yn cynnwys Dafydd Alaw a Huw Cornwy.
Nodyn: Ni ddylid cymysgu rhwng y plasty hwn a'r Myvyrian Archaiology of Wales, y cyfeirir ati weithiau fel "Y Myvyrian". Enwir y gyfrol ar ôl Owain Myfyr, noddwr y llyfr, a does dim cysylltiad gyda'r plasty.
Ffynhonnell
[golygu | golygu cod]- Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru.