Meurig ab Iorwerth

Oddi ar Wicipedia
Meurig ab Iorwerth
Ganwyd14 g Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata

Un o Feirdd yr Uchelwyr oedd Meurig ab Iorwerth (bl. diwedd y 14g).[1]

Bywyd a cherddi[golygu | golygu cod]

Ychydig a wyddom y bardd ac rydym yn dibynnu yn bennaf ar dystiolaeth ei gerdd i Hopcyn ap Tomas o Ynysforgan am ein gwybodaeth. Dyma'r unig gerdd gan y bardd sydd wedi goroesi. Cedwir y gerdd mewn rhan o Lyfr Coch Hergest a ychwanegywd ato tua'r flwyddyn 1400 pan fu ym meddiant Hopcyn. Rhaid felly ei fod yn ei flodau cyn hynny. Nodir gŵr o'r enw Meurig ab Iorwerth Fongam, o ardal Brycheiniog, yn yr achau: bu yn ei flodau yn yr un cyfnod â'r bardd, ac fel all yn wir fod yr un gŵr.[1]

Mae cerdd Meurig yn un o bum awdl foliant i Hopcyn ap Tomas sydd wedi goroesi; ceir awdlau eraill iddo gan Llywelyn Goch ap Meurig Hen, Dafydd y Coed, Madog Dwygraig, a Ieuan Llwyd ab y Gargam.[1]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • R. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Dafydd y Coed a beirdd eraill o Lyfr Coch Hergest (Aberystwyth, 2002). ISBN 0-947531-71-8

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 R. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Dafydd y Coed a beirdd eraill o Lyfr Coch Hergest.