Siôn Phylip

Oddi ar Wicipedia
Siôn Phylip
FfugenwSion Phylip Edit this on Wikidata
Ganwydc. 1543 Edit this on Wikidata
Bu farw1620 Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata
PlantGruffudd Phylip Edit this on Wikidata

Bardd ac un o deulu Phylipiaid Ardudwy oedd Siôn Phylip (tua 1543 - 1620). Roedd ymhlith yr olaf o Feirdd yr Uchelwyr.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Roedd Siôn yn frawd i Rhisiart Phylip (m. 1641), yntau'n fardd. Enillai ei fywoliaeth trwy fynd ar deithiau clera yng ngogledd Cymru a thrwy ffermio; roedd ganddo fferm ym Mochres, ar lan Bae Ceredigion ger Llandanwg, Ardudwy, yn yr hen Sir Feirionnydd (de Gwynedd heddiw).

William Llŷn oedd ei athro barddol. Roedd Siôn yn un o'r beirdd a raddiodd yn Eisteddfod Caerwys 1567. Cymerodd ran mewn ymryson barddol ag Edmwnd Prys, Tomos Prys a Siôn Tudur.

Ymhlith noddwyr pwysicaf y bardd oedd Wynniaid Gwydir, Dyffryn Conwy a theulu Nannau, ger Dolgellau. Cyfansoddodd farwnad i Wiliam Thomas, a fu farw ar ôl ymladd ym myddin Syr Philip Sidney yn yr Iseldiroedd.

Boddodd Siôn ar ei ffordd yn ôl i Fochres mewn cwch o Bwllheli, ar ôl bod ar daith clera yn Llŷn a Môn. Cafodd ei gladdu ym mynwent Llandanwg lle ceir yr englyn canlynol iddo ar ei garreg fedd, gan ei gyfaill Huw Llwyd o Gynfal:

'Dyma fedd gwrda oedd gu — Siôn Phylip
Sain a philer Cymru;
Cwynwn fynd athro canu
I garchar y ddaiar ddu.'[1]

Roedd ei ddau fab Gruffudd (m. 1666) a Phylip Siôn yn feirdd yn eu tro.

Phylipiaid Ardudwy[golygu | golygu cod]

Roedd cyfnod blodeuo'r teulu'n ymestyn o 1543, dyddiad geni Siôn Phylip, hyd at 1678, sef y flwyddyn y profwyd ewyllys Phylip Siôn Phylip ei fab.

Redd y brodyr Siôn a Rhisiart, a'r brodyr Gruffydd a Phylip Siôn, yn canu yn y mesurau caeth, gan mwyaf. Gwyddem hefyd drwy eu canu mai clerigwyr oedd Siôn, Rhisiart a Gruffydd. Yn y mesurau rhydd y canodd William Phylip gan mwyaf, ac nid oedd yn clera. Canodd Siôn, a'i fab Gruffydd ar ei ôl, lawer i Fychaniaid Corsygedol, ac yr oedd Rhisiart yn fardd teulu Fychaniaid Nannau. Ond nid i deuluoedd Sir Feirionnydd yn unig y canai'r tri bardd. Bu i bob un o'r tri athro barddol a ‘graddiodd’ Siôn yn ail eisteddfod Caerwys, 1568; yr oeddent hefyd yn achyddwyr da. Yr oeddynt ymhlith y clerwyr diwethaf yng Nghymru a phan fu Gruffydd farw yn 1666 fe'i galwyd ‘y diweddaf o'r hen feirdd.’

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Dyfynnir yn T. I. Ellis, Crwydro Meirionnydd (Llyfrau'r Dryw, 1954)