Nannau

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Nannau
Plas Nannau.jpg
Math plasty, ystâd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Cymru Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 52.7702°N 3.86453°W Edit this on Wikidata
Manylion
Perchnogaeth Teulu Nannau Edit this on Wikidata
Statws treftadaeth adeilad rhestredig Gradd II* Edit this on Wikidata

Plasdy hynafol ac ystâd ym mhlwyf Llanfachreth, Meirionnydd, ac enw'r teulu a drigai yno yw Nannau. Yr hen sillafiad oedd 'Nannheu' a 'Nanneu', sy’n hen ffurf luosog o 'nant'.[1]

Roedd teulu Nannau yn ddisgynyddion o dywysogion Powys trwy ei hynafiad Ynyr Hen (yn fyw ar ddechrau'r 13g). Codwyd y plasty gan Gadwgan ap Bleddyn ap Cynfyn yn gynnar yn y 12g ond fe’i llosgwyd gan Owain Glyndŵr tua 1402, yn nyddiau Hywel Selau, tad Meurig Fychan yn ôl y traddodiad. Roedd y teulu'n ewnog fel noddwyr beirdd y cyfnod a dethlir y plasdy a haelioni'r teulu mewn sawl cerdd o'r 14g ymlaen. Roedd y bardd Llywelyn Goch ap Meurig Hen yn perthyn i'r teulu. Yn ôl Vaughan, roedd adfeilion hen dŷ Hywel Selau i'w gweld yn nyddiau Pennant, ym mharc y tŷ diweddarach ger y porthdy a adeiladwyd yn y 18g gyda cherrig o’r hen dŷ yn ôl traddodiad lleol. Ers y 13g, ochrodd teulu Nannau gyda Choron Lloegr, ond o ddydd i ddydd buont yn driw i’r beirdd a'u traddodiadau gan eu noddi hyd at yr 17g. Ystyrir Siôn Dafydd Las (bu farw 1694), bardd teulu Nannau, yn un o'r olaf o'r beirdd teulu traddodiadol yng Nghymru.

Y cefn
Corffddelw Meurig ap Ynyr Fechan (c. 1315 - 1347) o'r Nannau.
Y gatws
Ceubren yr Ellyll

Unwyd ystadau Nannau a Hengwrt ar ddechrau'r 18g pan briododd Robert Vaughan, gorwyr yr hynafiaethydd enwog Robert Vaughan o Hengwrt, ac un o wyresau Huw Nannau, yntau'n noddwr a hynafiaethydd.

Darllen pellach[golygu | golygu cod y dudalen]

  • E. D. Jones, 'The family of Nannau of Nannau' (Cylchgrawn Cymdeithas Hanes Sir Feirionnyd, 1933)

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

  • gutorglyn.net; dau gywydd: cerdd 49 (cywydd mawl) a cherdd 50 (marwnad); adalwyd 21 Hydref 2018.