Rhisiart Iorwerth

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Bardd o Langynwyd, Tir Iarll a flodeuodd rhwng 1510 ac 1570 oedd Rhisiart Iorwerth (enw barddol: Rhisiart Fynglwyd), a oedd yn fab i'r bardd Iorwerth Fynglwyd. Ef oedd athro cerdd Dafydd Benwyn. Roedd ei dad o Saint-y-brid, yng ngorllewin Bro Morgannwg.[1]

Serch oedd thema ei gerddi cynnar, ac aeddfedodd i ganu cerddi mawl ar y pedwar mesur ar hugain, yn bennaf i uchelwyr ei ardal, sef Morgannwg, yn ogystal a Sir Frycheiniog a Sir Gaerfyrddin. Ceir amryw i Deulu'r Dwnn, yn enwedig i Ryffydd Dwnn o Ystrad Merthyr a'i fab Harri.

Yn ôl Griffith John Williams: ‘Efallai y mwyaf diddorol yw'r cywydd heddwch rhwng Syr Siors Herbert a Mr. Edward Mawnsel,’ ac mai Rhisiart Fynglwyd, a oroesodd Lewys Morgannwg, oedd yr ‘olaf o feirdd pwysig Morgannwg yng nghyfnod y canu caeth.’

Enghraifft o'i waith[golygu | golygu cod y dudalen]

"Padell, a Chawell, a Chi,—a Chawnen,
A Cheneu costawcci,
A phren Yw, a phren Ewi,
A Tharth y graig, a Thorth gri."[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Y Bywgraffiadur Cymreig Ar-lein; adalwyd 02 Gorffennaf 2015
  2. llyfrau.org; adalwyd 02 Gorffennaf 2015

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Marwnad gan Dafydd Benwyn yn Llyfr Hir Llanharan, 131a;

gwaith Rhisiart Fynglwyd mewn amryw lsgr. yn Ll.G.C., yn arbennig Llawysgrif Llansteffan yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth 40

  • E. Lhuyd, Archaeologia Britannica, 1707, 263
  • J. Gwenogvryn Evans, Reports on Manuscripts in the Welsh Language. Historical Manuscripts Commission, 1898–1910, ii, 499, etc.
  • G. J. Williams, Traddodiad Llenyddol Morgannwg, 1948.