Llandeilo Llwydiarth

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Pentrefan yw Llandeilo Llwydiarth a saif wrth droed Mynyddoedd y Preseli. Ceir yno gapel, adfeilion hen eglwys a llond llaw o dai. Sancteiddiwyd y capel a'r eglwys i Sant teilo ac fe welir enw'r sant yn enw'r pentref.

Mae yno hefyd hen ffynnon. Cred rhai i benglog Sant teilo gael ei gadw yn y pentref am ganrifoedd, cyn iddi fynd o law i law, gan gyrraedd Awstralia; yn rhyfeddol, cyflwynwyd ef i Ddeon Tyddewi ar 9 Chwefror 1994.[1]


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Erthygl gan Kemmis Buckley MBE, DL, MA; adalwyd 9 Chwefror 2017.