Paul Davies

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Paul Davies
Paul Davies AM 2001.jpg
Arweinydd Grŵp y Ceidwadwyr yn y Cynulliad (dros dro), a Gweinidog yr Wrthblaid dros Gyllid.
Rhagflaenwyd gan Andrew R. T. Davies
Aelod o Cymru
dros Preseli Penfro
Deiliad
Cychwyn y swydd
3 Mai 2007
Rhagflaenwyd gan Tamsin Dunwoody
Mwyafrif 2,175 (8%)
Manylion personol
Ganwyd 1969 (48–49 oed)
Cymru
Plaid wleidyddol Y Ceidwadwyr

Gwleidydd Ceidwadol yw Paul Windsor Davies (ganwyd 1969). Cafodd ei ethol i gynrychioli etholaeth Preseli Penfro yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru yn etholiadau mis Mai 2007, gan gipio y sedd oddi wrth Llafur. Cafodd ei ail-ethol ym Mai 2011 ac yn Mai 2016.[1]

Cefndir[golygu | golygu cod y dudalen]

Magwyd Davies yn Pontsian. Mynychodd Ysgol Gynradd Tregroes ac Ysgol Ramadeg Llandysul, gan astudio lefelau A levels yn Ysgol Gyfun Castellnewydd Emlyn. Mae Davies nawr yn byw ym Mlaenffos, gogledd Sir Benfro.

Gyrfa brofessiynol[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu Davies yn gweithio i Lloyds TSB o 1987 hyd ei ethol i'r Cynulliad Cenedlaethol, gyda swydd fel Rheolwr Busnes wedi ei leoli yn Hwlffordd yn helpu i ddatblygu busnesau bach.

Gyrfa wleidyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Ym mis Chwefror 2000, dewiswyd Davies fel ymgeisydd y Blaid Geidwadol yn is-etholiad Ceredigion; daeth yn drydydd wedi cynyddu pleidlais y Blaid Geidwadol. Ymgeisodd am y sedd eto yn etholiad cyffredinol 2001. Yn etholiad y Cynulliad yn 2003, bu'n ymladd Preseli Penfro lle cynnyddodd y gyfran o'r bleidlais o 23% i 30%, gan dorri mwyafrif y Blaid Lafur i 1,326.

Bud Davies hefyd yn gweithio o fewn y Blaid Geidwadol yn lleol, gan gynnwys bod yn gadeirydd Cymdeithas Ceidwadwyr Ceredigion a Dirprwy Gadeirydd Ceidwadwyr Canolbarth a Gorllewin Cymru .

Fe'i etholwyd gyntaf i'r Cynulliad yn 2007. Tan fis Mawrth 2009 bu'n gwasanaethu fel Gweinidog yr Wrthblaid dros Ddiwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon. O fis Mawrth 2009 hyd Etholiad y Cynulliad yn 2011, roedd Davies yn Weinidog yr Wrthblaid dros Addysg a'r Iaith Gymraeg. Ar ôl ei ail-ethol fel Aelod Cynulliad dros Preseli Penfro ym mis Mai 2011, roedd yn Arweinydd Dros-dro Grŵp y Ceidwadwyr yn y Cynulliad, cyn cael ei benodi fel Dirprwy Arweinydd  yn Grŵp y Ceidwadwyr yn y Cynulliad, ac yn Weinidog yr Wrthblaid dros Gyllid.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]