Nick Bourne

Oddi ar Wicipedia
Yr Arglwydd Bourne o Aberystwyth
Nick Bourne


Cyfnod yn y swydd
6 Mai 1999 – 6 Mai 2011

Geni (1952-01-01) 1 Ionawr 1952 (72 oed)
Plaid wleidyddol Y Blaid Geidwadol (DU)
Alma mater Prifysgol Aberystwyth
Coleg y Drindod, Caergrawnt

Nicholas Henry "Nick" Bourne, Barwn Bourne o Aberystwyth (ganed 1 Ionawr 1952) oedd arweinydd y Blaid Geidwadol yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ers 1999, pan olynodd Rod Richards. Mae'n gyn athro yn y Gyfraith a darlithydd prifysgol. Mae'n AC Canolbarth a Gorllewin Cymru trwy'r rhestr ranbarthol (1999, 2003 a 2007). Yn 2011 yn annisgwyl collodd ei sedd ranbarthol gan i'r ceidwadwyr wneud yn dda ar lefel etholaethol. Dyrchafwyd i Dy'r Arglwyddi ym Medi 2013.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Addysgwyd yn Ysgol Brenin Edward VI, Chelmsford, Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth a Choleg y Drindod, Caergrawnt lle bu'n Lywydd Cyfreithwyr Prifysgol Caergrawnt a Chymdeithas Ceidwadwyr Prifysgol Caergrawnt. Bu Bourne hefyd yn Athro Cyfraith ac yn Lywydd Cynorthwyol Athrofa Addysg Uwch Abertawe. Mae hefyd yn ddarlithydd achlysurol ym mhrifysgol Hong Cong.

Mae ei diddordebau gwleidyddol yn cynnwys yr economi, materion tramor, iechyd ac addysg. Mae'n dal i alw am refferendwm cyn roi rhagor o rym i'r Cynulliad.

Mae Nick Bourne yn eistedd ar bwyllgor Materion Ewropeaidd y Cynulliad ac yn llefarydd ei blaid ar faterion cyfansoddiadol. Cyn cymryd rhan yng ngwleidyddiaeth Cymru safodd fel ymgeisydd Torïaidd yn is-etholiad Chesterfield (1984) ac mewn etholiad yng Nghaerwrangon.

Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Rhagflaenydd:
swydd newydd
Aelod Cynulliad dros Canolbarth a Gorllewin Cymru
19992011
Olynydd:
William Powell
Swyddi gwleidyddol
Rhagflaenydd:
Ieuan Wyn Jones
Llywydd Gwrthblaid yn y Cynulliad Cenedlaethol
20072011
Olynydd:
Paul Davies


Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.