Abercastell

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Abercastell
Cychod pysgota yn Abercastell.

Pentref bychan ar fae Cwm Badau yw Abercastell, ar arfordir Sir Benfro hanner ffordd rhwng Tyddewi ac Abergwaun.

Dim ond ychydig o dai sydd yno heddiw, ond roedd yn harbwr bach digon prysur ym 1566. Yn ôl yr hynafiaethydd Richard Fenton, hwyliai llongau bach yn ôl ac ymlaen rhwng Abercastell a Bryste ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, yn cludo menyn ac ŷd ar eu ffordd allan ac yn cludo nwyddau cyffredinol ar eu ffordd yn ôl. Yn ddiweddarach ceirch a allforid a glo carreg (anthracite) a fewnforid. Llosgid calch yn yr hen odyn sydd i'w weld yn yr harbwr o hyd.

Hanner milltir o'r pentref mae Carreg Samson, un o'r cromlechi gorau yng Nghymru. Dywedir fod bys Samson wedi'i gladdu ar Ynys-y-castell ger yr harbwr.

Ar 15 Mehefin 1876 glaniodd Alfred Johnson yn Abercastell yn ei gwch ugain troedfedd y Centennial ar ôl hwylio ar ei ben ei hun yr holl ffordd dros Fôr yr Iwerydd, y dyn cyntaf i gyflawni'r gamp honno.