Maenorbŷr

Oddi ar Wicipedia
Maenorbŷr
Maenorbŷr
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Benfro Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.6444°N 4.7981°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000445 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auSamuel Kurtz (Ceidwadwyr)
AS/auSimon Hart (Ceidwadwr)
Map

Pentref a chymuned yn Sir Benfro, Cymru, yw Maenorbŷr[1] (Saesneg: Manorbier). Mae'n rhan o Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Daw'r enw o "Maenor" (sef Prif lys cantref neu gwmwd) a'r enw Pŷr (Lladin: Poriws) sef sant o'r 6g. Yr un yw tarddiad y gair "Ynys Bŷr". Cafodd Gerallt Gymro ei eni yng Nghastell Maenorbŷr.

Mae rheilffordd yn pasio'n agos i'r pentref: Rheilffordd Gorllewin Cymru a cheir Gorsaf reilffordd Maenorbŷr yno.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Samuel Kurtz (Ceidwadwyr)[2] ac yn Senedd y DU gan Simon Hart (Ceidwadwr).[3]

Hanes[golygu | golygu cod]

Ceir llawer o olion yn perthyn i'r Oes Efydd gan gynnwys sawl cromlech, carnedd a chaer o ffosydd gwarcheidiol ger yr orsaf reilffordd ac un arall ger "Yr Hen Gastell" sy'n cynnwys olion cytiau llwyfan. Mae yn yr ardal, hefyd, ar ochr ddwyreiniol y pentref, lawer o ffiniau caeau sy'n tarddu'n ôl i'r Oesoedd Canol a chyn hynny o bosib.

Cromlech gerllaw'r pentref.

Trosglwyddwyd llawer o dir yr ardal i farchog Normanaidd o'r enw Odo de Barri, fel gwobr am gynorthwyo'r Saeson i feddiann'r rhan hon o Benfro, ychydig wedi 1003.

Castell mwnt a beili allan o bridd a phren oedd y castell cyntaf yma, gyda waliau cerrig yn cael eu codi tua chanrif yn ddiweddarach. Cafodd Gerallt Gymro ei eni yng Nghastell Maenorbŷr yn 1146, yn fab i William de Barri ac Angharad ferch Nest.

Oriel[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. Gwefan Senedd Cymru
  3. Gwefan Senedd y DU