Slebets

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Slebets
St Johns Church Slebech.jpg
Daearyddiaeth
Ardal warchodol Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 51.8033°N 4.865°W Edit this on Wikidata
Eglwys Slebets.

Pentref bychan a chymuned yn Sir Benfro yw Slebets (Saesneg: Slebech). Saif i'r dwyrain o dref Hwlffordd ger y briffordd A40, ar lan ogleddol Afon Cleddau Ddu. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 172.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd gan urdd Marchogion Sant Ioan gomawndri yn Slebets; yr unig un yng Nghymru. Sefydlwyd hwn gan arglwyddi Cas-wis tua chanol y 12g. Pan ddiddymwyd y mynachlogydd yn y 16g, daeth eglwys y comawndri yn eglwys y plwyf. Yn yr eglwys mae bedd William Hamilton, oedd yn un o sylfaenwyr tref Aberdaugleddau; mae'n fwy enwog oherwydd i'w wraig, Emma, gael carwriaeth adnabyddus a'r Arglwydd Nelson.

Saif Castell Pictwn o fewn y gymuned, ac yn 2006 dechreuwyd adeiladu pentref gwyliau Bluestones yma. Bu llawer o brotestion ynghylch y cynllun, gan fod rhan o'r safle ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Pobl o Slebets[golygu | golygu cod y dudalen]

Bachgen o Slebets oedd Roger Barlow a fu ar fordaith gyda Sebastian Cabot yn 1526 ac a gyfieithodd y Suma de Geographie o'r Sbaeneg i'r Saesneg; sef disgrifiad o diroedd y Byd Newydd.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]