Horatio Nelson

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Horatio Nelson, darlun gan Lemuel Francis Abbott.

Llynghesydd Prydeinig oedd Horatio Nelson, Feicownt 1af Nelson (29 Medi 175821 Hydref 1805).

Ganed ef yn Burnham Thorpe, Norfolk, Lloegr, y chweched o unarddeg o blant y Parchedig Edmund Nelson a'i wraig Catherine. Ymunodd a'r llynges yn deuddeg oed, a daeth i amlygrwydd yn fuan. Mae'n fwyaf enwog oherwydd ei fuddugoliaeth dros lynges Ffrainc ym Mrwydr Trafalgar yn 1805, ond saethwyd ef yn ystod y frwydr a bu farw'n fuan wedyn.