Castell Pictwn
![]() Engrafiad o Gastell Pictwn, tua 1830 | |
Math |
castell ![]() |
---|---|
| |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad |
Uzmaston ![]() |
Sir |
Slebets ![]() |
Gwlad |
![]() |
Cyfesurynnau |
51.7841°N 4.88538°W ![]() |
![]() | |
Perchnogaeth |
Teulu Wogan, Owain Dwnn, Teulu Philipps ![]() |
Statws treftadaeth |
adeilad rhestredig Gradd I ![]() |
Manylion | |
Castell yng nghymuned Slebets ger Hwlffordd, Sir Benfro yw Castell Pictwn (Saesneg: Picton Castle).
Codwyd y castell gwreiddiol ar ddiwedd y 13g gan Syr John Wogan ac mae'n dal i gael ei ddefnyddio gan ei ddisgynyddion, y teulu Philipps.
Erbyn heddiw mae'r castell yng ngofal Ymddiriedolaeth Castell Pictwn (Picton Castle Trust). Mae wedi cael ei adnewyddu yn sylweddol sawl gwaith, yn 1697 gan Syr John Philipps (un o sylfaenwyr y Gymdeithas er Taenu Gwybodaeth Gristnogol) ac yn 1749-52 hefyd, ond mae'n cadw llawer o'r nodweddion canoloesol gyda ffenestri mawr wedi'u gosod yn y muriau allanol gwreiddiol.
Enwir y barc Cymreig Picton Castle (a ddefnyddir yng Nghanada fel llong hwyliau i hyfforddi morwyr ifainc) ar ôl y castell.
Mae gan y castell dros 40 erw (160,000 m2) o erddi sy'n agored i'r cyhoedd.
Yn 2006, dechreuwyd adeiladu pentref gwyliau 'Bluestones' yma. Bu llawer o brotestion ynghylch y cynllun, gan fod rhan o'r safle ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
Dolen allanol[golygu | golygu cod y dudalen]
- (Saesneg) Gwefan y castell