Mynachlog-ddu

Oddi ar Wicipedia
Mynachlog-ddu
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Benfro Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.9428°N 4.7031°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000452 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auPaul Davies (Ceidwadwyr)
AS/auStephen Crabb (Ceidwadwr)
Map

Pentref, cymuned a phlwyf eglwysig yng ngogledd Sir Benfro, Cymru, yw Mynachlog-ddu.[1] Saif yn nwyrain y sir, ychydig i'r gorllewin o'r briffordd A478, ac i'r de-orllewin o bentref Crymych. I'r gorllewin o'r pentref mae copaon Mynydd Preseli. Credir fod rhai o gerrig Côr y Cewri wedi dod o Gaermeini, neu'n fwy cywir Carn Menyn gerllaw.

Cysegrwyd yr eglwys i Sant Dogfael; cyn diddymu'r mynachlogydd roedd y plwyf yn eiddo i Abaty Llandudoch. Roedd Thomas Rees (Twm Carnabwth) (1806 - 1876), un o arweinwyr Merched Beca, yn frodor o Fynachlog-ddu, ac mae wedi ei gladdu yma. Bu'r bardd Waldo Williams yn byw yma o 1911 hyd 1915, pan oedd ei dad yn brifathro ar yr ysgol gynradd, ac yma y dysgodd Gymraeg. Ceir cofeb iddo gerllaw'r pentref.

Bu'r Parch Parry Roberts a oedd yn frodor o Sir Fôn yn weinidog ar gapel y Bedyddwyr yma am gyfnod hir. Ef oedd un o'r ymgyrchwyr yn erbyn y Weinyddiaeth filwrol gymryd drosodd ffermydd yr ardal i'w gwneud yn ardal ymarfer rhyfel.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Paul Davies (Ceidwadwyr)[2] ac yn Senedd y DU gan Stephen Crabb (Ceidwadwr).[3]

Mynachlog-ddu


Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6][7]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Mynachlog-ddu (pob oed) (494)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Mynachlog-ddu) (204)
  
42.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Mynachlog-ddu) (244)
  
49.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Mynachlog-ddu) (62)
  
29.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. "Gwefan Senedd Cymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-11-10. Cyrchwyd 2021-11-10.
  3. Gwefan Senedd y DU
  4. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  5. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  6. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  7. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]