Llanrhian

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Llanrhian
Math Pentref, Cymuned Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Sir Benfro Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 51.9381°N 5.1728°W Edit this on Wikidata
Cod SYG W04000947 Edit this on Wikidata
Cod OS SM8131 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/au Paul Davies (Ceidwadwyr)
AS/au Stephen Crabb (Ceidwadwr)

Pentref, plwyf a chymuned yng ngogledd Sir Benfro yw Llanrhian. Saif i'r gorllewin-ddwyrain o ddinas Tyddewi, i'r gogledd o'r briffordd A487 i Abergwaun.

Dyddia tŵr yr eglwys, a gysegrwyd i Sant Rhian, o'r 13g. Mae tîm criced Llanrhian yn adnabyddus, ac wedi cael llwyddiant eithriadol i dîm o bentref mor fychan.

Heblaw pentref Llanrhian ei hun, mae'r gymuned yn cynnwys Trefin a Phorth-gain. Ar un adeg roedd y diwydiant llechi yn bwysig yn yr ardal, gyda chwareli yn Abereiddi, Porth-gain a Thrwyn Llwyd. Allforid y llechi o borthladd bychan Porth-gain.

Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 897.

Cynrychiolir yr ardal hon yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Paul Davies (Ceidwadwyr) a'r Aelod Seneddol yw Stephen Crabb (Ceidwadwr).[1][2]

Eglwys Llanrhian.

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod y dudalen]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llanrhian (pob oed) (892)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanrhian) (408)
  
46.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanrhian) (602)
  
67.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Llanrhian) (133)
  
33%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Gwefan y Cynulliad; adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  3. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  5. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013