Niwgwl

Oddi ar Wicipedia
Niwgwl
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Benfro Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.8564°N 5.1261°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auPaul Davies (Ceidwadwyr)
AS/auStephen Crabb (Ceidwadwr)
Map

Pentref bychan yn Sir Benfro yw Niwgwl[1] (Saesneg: Newgale).[2] Fe'i lleolir yng ngorllewin y sir, ar lan Bae Sain Ffraid, tua hanner ffordd rhwng Tyddewi i'r gorllewin a Hwlffordd i'r dwyrain. Rhed briffordd yr A487 trwy'r pentref.

Mae'r pentref yn adnabyddus am ei draeth tywodlyd llydan sy'n denu twristiaid yn yr haf. Mae'n rhan o Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro ac mae Llwybr Arfordir Sir Benfro yn mynd heibio rhwng y pentref a'r traeth. Crëwyd y traeth gan storm ar 25 Hydref 1859. [3][4] Mae stormydd yn achosi difrod yn aml.

Traeth Niwgwl a'r pentre

Arfordir Niwgwl-Aber-bach[golygu | golygu cod]

Mae Arfordir Niwgwl - Aber Bach yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.

Y traeth

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 12 Tachwedd 2021
  3. Gwefan visitpembrokeshire.com
  4. Gwefan bbc


Oriel[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Benfro. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato