Castell-llan

Oddi ar Wicipedia
Castell-llan
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Benfro Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.9992°N 4.6286°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auPaul Davies (Ceidwadwyr)
AS/auStephen Crabb (Ceidwadwr)
Map

Pentref bychan a phlwyf eglwysig yn Sir Benfro, Cymru, yw Castell-llan (Seisnigiad: Castellan).[1] Fe'i lleolir yng ngogledd y sir ar lethrau'r Frenni Fawr, tua milltir i'r gogledd o bentref Crymych. Mae'r rhan ogleddol y plwyf eglwysig yn rhan o gymuned Boncath a'r rhan ddeheuol yn rhan o gymuned Crymych.

Sefydlwyd Castell-llan fel capel yn perthyn i blwyf Penrhydd. Yn yr Oesoedd Canol roedd yn faenor yn perthyn i urdd Marchogion yr Ysbyty, Slebets. Mae adfeilion yr hen gapel i'w gweld o hyd.

Mae pentref bychan Blaen-y-ffos (Blaen-ffos) yn rhan o'r plwyf hefyd.

Copa'r Frenni Fawr, Castell-llan

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Benfro. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato