Neidio i'r cynnwys

Cas-wis

Oddi ar Wicipedia
Cas-wis
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,097, 1,148, 848 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd4,420.32 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.8264°N 4.8703°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000484 Edit this on Wikidata
Cod OSSN0215018049 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Etholaeth y DUBen Lake (Plaid Cymru)
Map

Pentref a chymuned yn Sir Benfro, Cymru, yw Cas-wis[1] (Saesneg: Wiston). Saif i'r dwyrain o dref Hwlffordd ac i'r gogledd o'r briffordd A40.

Hyd at 1918, roedd Cas-wis yn un o fwrdeisdrefi etholiadol Sir Benfro. Heblaw Cas-wis ei hun, mae'r gymuned yn cynnwys pentrefi Clarbeston, Clarbeston Road a Waltwn. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 848.

Tŷ crand yng Nghas-wis

Ceir gweddillion castell mwnt a beili yma, sef Castell Cas-wis, a godwyd gan un o Fflemingiaid de Sir Benfro o'r enw Wizo cyn 1130, wedi iddo gipio rhannau halaeth o gantref Daugleddau. Dinistriwyd y castell gan Llywelyn Fawr yn 1220, ond ail-adeiladwyd ef.

Cyfrifiad 2011

[golygu | golygu cod]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[2][3][4][5]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Cas-wis (pob oed) (1,097)
 
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Cas-wis) (231)
 
21.7%
:Y ganran drwy Gymru
 
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Cas-wis) (753)
 
68.6%
:Y ganran drwy Gymru
 
73%
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Cas-wis) (138)
 
31.2%
:Y ganran drwy Gymru
 
67.1%

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-10-02. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  3. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  4. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  5. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen farw]