Castell Cas-wis
Gwedd
| Math | castell mwnt a beili, safle archaeolegol |
|---|---|
| Sefydlwyd | |
| Daearyddiaeth | |
| Lleoliad | Cas-wis |
| Sir | Sir Benfro |
| Gwlad | |
| Uwch y môr | 112.1 metr |
| Cyfesurynnau | 51.826785°N 4.871144°W |
| Rheolir gan | Cadw |
![]() | |
| Perchnogaeth | Cadw |
| Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I, heneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru |
| Manylion | |
| Dynodwr Cadw | PE077 |
Castell mwnt a beili yw Castell Cas-wis, a godwyd yng nghyfnod y Normaniaid yng Nghymru gan un o Ffleminiaid de Penfro o'r enw Wizo (Cymreigiad: 'Wis') cyn 1130, wedi iddo gipio rhannau halaeth o gantref Daugleddau. Saif ei adfeilion ar gwr pentref Cas-wis yn Sir Benfro.
Ymosodwyd ar y castell gan fyddin gynghreiriol o wŷr Deheubarth a milwyr William fitz Gerald, ewythr Gerallt Gymro, yn 1147.[1] Dinistriwyd y castell gan Llywelyn Fawr yn 1220, ond ail-adeiladwyd ef. Daeth yn bencadlys arglwyddiaeth Normanaidd Cas-wis.[2]
