Rudbaxton

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Rudbaxton
Math Cymuned Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Sir Benfro Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 51.8°N 5°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/au Paul Davies (Ceidwadwyr)
AS/au Stephen Crabb (Ceidwadwr)

Pentref, plwyf a chymuned yn ne Sir Benfro yw Rudbaxton. Nid ymddengys fod enw Cymraeg iddo. Saif ychydig i'r gogledd o dref Hwlffordd ac i'r dwyrain o'r briffordd A40.

Cysegrwyd yr eglwys, sy'n dyddio or 11g, i Sant Mihangel. Bu William Laud yn rheithor yma pan oedd yn Esgob Tyddewi.

Mae'r gymuned hefyd yn cynnwys pentrefi Crundale a Poyston Cross. Ganed y cadfridog Thomas Picton yn Poyston Hall. Roedd poblogaeth y gymuned yn 1,062 yn 2001.

Cynrychiolir yr ardal hon yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Paul Davies (Ceidwadwyr) a'r Aelod Seneddol yw Stephen Crabb (Ceidwadwr).[1][2]

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod y dudalen]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Rudbaxton (pob oed) (768)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Rudbaxton) (136)
  
18.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Rudbaxton) (526)
  
68.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Rudbaxton) (125)
  
37%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Gwefan y Cynulliad; adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  3. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  5. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013