William Laud
Gwedd
| William Laud | |
|---|---|
| Ganwyd | 7 Hydref 1573 Reading |
| Bu farw | 10 Ionawr 1645 o pendoriad Tower Hill |
| Dinasyddiaeth | Teyrnas Lloegr |
| Alma mater |
|
| Galwedigaeth | offeiriad Anglicanaidd, diwinydd, ysgrifennwr, gweinidog yr Efengyl |
| Swydd | Archesgob Caergaint, Esgob Llundain, Esgob Caerfaddon a Wells, Esgob Tyddewi, Dean of Gloucester |
| Dydd gŵyl | 10 Ionawr |
| llofnod | |

Clerigwr o Sais a ddaeth yn Archesgob Caergaint ac yn un o'r bobl mwyaf dylanwadol yn Lloegr ei ddydd oedd yr Archesgob William Laud (7 Hydref 1573 – 10 Ionawr 1645). Roedd yn gefnogwr selog i'r Brenin Charles I, a anogwyd ganddo i gredu mewn hawl dwyfol brenhinoedd. Arweiniodd ei gefnogaeth i Charles, brenhiniaeth absoliwt, a'i erledigaeth ar bobl a ddaliai farn wahanol, i'w ddienyddio trwy dorri ei ben yng nghanol Rhyfel Cartref Lloegr.
Gwasanaethodd Laud fel Esgob Tyddewi rhwng 1621 a 1627. Ei gaplan oedd y Cymro Morgan Owen, o Fyddfai, a ddaeth yn Esgob Llandaf yn ddiweddarach diolch i Laud.