Esgob Tyddewi

Oddi ar Wicipedia
Eglwys Gadeiriol Tyddewi.
Arfbais Esgobaeth Tyddewi.

Llywodraethwr eglwysig Esgobaeth Tyddewi yng ngorllewin Cymru yw Esgob Tyddewi. Yn draddodiadol ystyrir Dewi Sant fel Esgob cyntaf Tyddewi. Mae cofnodion am y cyfnod cynnar yn gyfyngedig i ambell gofnod yn yr Annales Cambriae a Brut y Tywysogion. Er enghraifft, cofnodir i'r Daniaid anrheithio Tyddewi yn 999, a lladd yr esgob Morgeneu; y cyntaf o Esgobion Tyddewi, meddir, i dorri ar draddodiad Dewi o ymwrthod a bwyta cig.

Yn yr 11g roedd yr esgobion Sulien a'i fab Rhygyfarch ap Sulien yn ysgolheigion nodedig. I Rhygyfarch y priodolir y Vita Davidiis ("Buchedd Dewi"), a gyfansoddwyd i amddiffyn annibyniaeth yr esgobaeth oddi wrth Archesgob Caergaint. Yn 1176, enwebwyd Gerallt Gymro yn esgob, ond gwrthododd y brenin Harri II o Loegr ei dderbyn, yn ôl pob tebyg oherwydd ei ymgyrch dros annibyniaeth yr esgobaeth, ymgyrch a gafodd gefnogaeth Llywelyn Fawr.

Yn ystod ymrysonau crefyddol yr 16g, carcharwyd yr esgob Robert Ferrar am heresi gan Mari Tudur, ac, ar ôl gwrthod datgyffesu, fe'i llosgwyd wrth y stanc ar sgwâr y farchnad yng Nghaerfyrddin ar 30 Mawrth 1555.

Yr esgob presennol yw'r Gwir Barchedig Dorrien Davies a benodwyd , ym mis Hydref 2023.

Rhestr o Esgobion Tyddewi[golygu | golygu cod]

Cyfnod Esgob Nodiadau
545 hyd 589 Dewi
589 hyd 606 Cynog
606 hyd c. 610 Teilo
c. 610 hyd ??? Ceneu
??? hyd ??? Morfael
??? hyd ??? Haerwnen
??? hyd ??? Elfaed
??? hyd ??? Gwrnwen
??? hyd ??? Llunwerth I
??? hyd ??? Gwrgwst
??? hyd ??? Gwrgan
??? hyd ??? Clydog
??? hyd ??? Einion
??? hyd ??? Elffod
??? hyd ??? Ethelman
??? hyd ??? Elane
??? hyd ??? Maesgwyd
??? hyd 831 Sadyrnin
831 hyd ??? Cadell
??? hyd 840 Sulhaithnay
840 hyd 874 Nobis
874 hyd ??? Idwal
??? hyd ??? Arthfael
??? hyd ??? Samson
??? hyd ??? Ruelin
??? hyd ??? Rhydderch
??? hyd ??? Elwin
??? hyd ??? Morbiw
??? hyd 873 Llunwerth II
873 hyd 944 Eneuris
944 hyd ??? Sulhidyr
(alias Hubert)
??? hyd 978 Ifor
978 hyd 999 Morgeneu
999 hyd ??? Nathan
??? hyd ??? Ieuan
(alias Jevan)
??? hyd 1016 Arwystl
1016 hyd 1023 Erbin
1023 hyd 1039 Trahaearn
1039 hyd 1061 Ioseff
1061 hyd 1071 Bleiddud
1071 hyd 1072 Sulien
1072 hyd 1078 Abraham
1078 hyd 1088 Sulien Restored
1088 hyd ??? Rhygyfarch ap Sulien
??? hyd 1115 Gruffudd
(alias Wilfrid)
1115 hyd 1115 Deiniol
(alias Daniel)
Etholwyd ond nis cysegrwyd, daeth yn Archddiacon Powys
1115 hyd 1148 Bernard Cangehellor i’r Frenhines Adelize]]; yr esgob cyntaf i dderbyn uchafiaeth Caergrawnt
1148 hyd 1176 David FitzGerald Archddiacon Aberteifi
1176 hyd 1198 Peter de Leia Prior Wenlock
1198 hyd 1203 Gerallt Gymro Etholwyd ond nis derbyniwyd gan y brenin Harri II; ymddiswyddodd
1203 hyd 1214 Geoffrey de Henlaw
1214 hyd 1229 Gervase
(alias Iorwerth)
Bu farw yn y swydd
1230 hyd 1248 Anselm De la Grace
1248 hyd 1256 Thomas Wallensis
1256 hyd 1280 Richard Carew
1280 hyd 1298 Thomas Bek Archddiacon Dorset
1298 hyd 1328 David Martyn
1328 hyd 1347 Henry Gower
1347 hyd 1350 John Thoresby Arglwydd Ganghellor; daeth yn Esgob Caerwrangon
1350 hyd 1353 Reginald Brian Daeth yn Esgob Caerwrangon
1353 hyd 1361 Thomas Fastolf Person Fakenham, Norfolk
1361 hyd 1389 Adam Houghton Arglwydd Ganghellor
1389 Richard Metford Etholwyd ond rhoddwyd heibio gan y pab
1389 hyd 1397 John Gilbert Cynt yn Esgob Henffordd
1397 hyd 1408 Guy Mone
1407 hyd 1408 Gruffudd Yonge Apwyntiwyd gan Owain Glyndŵr
1408 hyd 1414 Henry Chichele Archddiacon Caersallog; daeth yn Archesgob Caergaint
1414 hyd 1415 John Catterick Daeth yn Esgob Caerlwytgoed
1415 hyd 1417 Stephen Patrington Daeth yn Esgob Chichester
1417 hyd 1433 Benedict Nichols Cynt yn Esgob Bangor
1433 hyd 1442 Thomas Rodburn Archddiacon Sudbury
1442 hyd 1446 William Lyndwood Arglwydd y Sêl Gyfrin
Ionawr 1447 hyd Mai 1447 John Langton Canghellor Caergrawnt; bu farw yn y swydd
15 Medi 1447 hyd 1460 John De la Bere Deon Wells
1460 hyd 1482 Robert Tully Mynach o Gaerloyw
1482 hyd 1483 Richard Martin Canghellor y Cyfrin Gyngor hyd oes Edward IV o Loegr
1483 hyd 1484 Thomas Langton Prebend Wells
1484 hyd 1485 Andrew …
1485 hyd 1496 Hugh Pavy Archddiacon Wiltshire
1496 hyd Mai 1504 John Morgan
(neu John Young)
Deon Windsor; bu farw yn y swydd
1505 hyd 1509 Robert Sherborne Deon St Paul, Llundain; daeth yn Esgob Chichester
1509 hyd c.1521 Edward Vaughan Prebend St Paul, Llundain; bu farw yn y swydd
1523 hyd 1536 Richard Rawlins Warden Coleg Merton, Rhydychen, Prebend St Paul, Llundain
1536 hyd 1549 William Barlow Cynt yn Esgob Llanelwy; daeth yn Esgob Caerfaddon a Wells
1549 hyd 1553 Robert Ferrar Cysegrwyd 9 Medi 1548; diswyddwyd gan y Frenhines Mari a llosgwyd am heresi.
1553 hyd 1559 Henry Morgan diswyddwyd gan y Frenhines Elizabeth
1559 hyd 1561 Thomas Young Canghellor Tyddewi; daeth yn Archesgob Efrog
1561 hyd 7 Tachwedd 1581 Richard Davies Cynt yn Esgob Llanelwy; Bu farw yn y swydd
1582 hyd 1592 Marmaduke Middleton Cynt yn Esgob Waterford; diswyddwyd ac alltudiwyd.
1592 hyd 1594 yn wag
1594 hyd 1615 Anthony Rudd Deon Caerloyw
1615 hyd 1621 Richard Milbourne Deon Rochester; daeth yn Esgob Caerliwelydd
1621 hyd 1627 William Laud Deon Caerloyw; daeth yn Esgob Caerfaddon a Wells
1627 hyd 1635 Theophilus Field Cynt yn Esgob Llandaf
1635 hyd 1653 Roger Mainwaring Deon Caerwrangon; bu farw yn y swydd
1653 hyd 1660 yn wag Hyd at adferiad y frenhiniaeth
1660 hyd 1677 William Lucy Rheithor High Clere, Swydd Huntingdon; daeth yn Esgob Caerwrangon
1677 hyd 1686 Lawrence Womach Archddiacon Suffolk
1686 hyd 1687 John Lloyd Priathro Coleg Iesu, Rhydychen
1687 hyd 1699 Thomas Watson diswyddwyd am gamymddygiad, yn cynnwys simoniaeth
1699 hyd 1705 yn wag am 5 mlynedd
1705 hyd 1710 George Bull Archddiacon Llandaf
1710 hyd 1712 Philip Bisse Daeth yn Esgob Henffordd
1712 hyd 1723 Adam Ottley Archddiacon Salop a Prebend Henffordd
1723 hyd 1730 Richard Smalbroke Trysorydd Llandaf; daeth yn Esgob Caerlwytgoed
1730 hyd 1731 Elias Sydall Deon Caergaint; daeth yn Esgob Caerloyw
1731 hyd 1743 Nicholas Clagget Deon Rochester; daeth yn Esgob Caerwysg
1743 hyd 1744 Edward Willes Deon Lincoln; daeth yn Esgob Caerfaddon a Wells
1744 hyd 1752 Yr AnrhydeddusRichard Trevor Canon Windsor; daeth yn Esgob Durham
1752 hyd 1761 Anthony Ellis Prebendari Caerloyw
1761 hyd 1766 Samuel Squire Deon Bryste
1766 hyd 1766 Robert Lowth Prebendary of Durham; daeth yn Esgob Rhydychen
1766 hyd 1774 Charles Moss Archddiacon Colchester; daeth yn Esgob Caerfaddon a Wells
1774 hyd 1779 Yr Anryd.James York Deon Lincoln; daeth yn Esgob Caerloyw
1779 hyd 1783 John Warren Archddiacon Caerwrangon; daeth yn Esgob Bangor
1783 hyd 1788 Edward Smallwell Daeth yn Esgob Rhydychen
1788 hyd 1793 Samuel Horsley Daeth yn Esgob Rochester
1793 hyd 1800 Yr AnrhydeddusWilliam Stuart Canon Eglwys Crist, Rhydychen,; daeth yn Archesgob Armagh
20 Rhagfyr 1800 hyd 3 Mehefin 1803 Arglwydd George Murray Bu farw yn y swydd
25 Mehefin 1803 hyd 1825 Thomas Burgess Daeth yn Esgob Caersallog
18 Mehefin 1825 hyd 7 Gorffennaf 1840 John Banks Jenkinson Bu farw yn y swydd
23 Gorffennaf 1840 hyd 1874 Connop Thirlwall  
1874 hyd 1897 William Basil Jones, DD  
1897 hyd 1926 John Owen Esgob ar adeg greu Yr Eglwys yng Nghymru
1926 hyd 1950 David Lewis Prosser, LLD Archesgob Cymru 1944-1949
1950 hyd 1956 William Thomas Havard, MC, TD, DD  
1956 hyd 1971 John Richard Richards, DD  
1971 hyd 1982 Eric Matthias Roberts, MA  
1982 hyd 1991 George Noakes Archesgob Cymru 1987-1991
1991 hyd 1995 J. Ivor Rees  
1995 hyd 2002 David Huw Jones  
2002 hyd y 2008 Carl N. Cooper  
2008 hyd 2016 John Wyn Evans  
2016 hyd 2023 Joanna Penberthy Y fenyw gyntaf yn y swydd
2023 hyd heddiw Dorrien Davies[1]
  1. Archdeacon Dorrien Davies to be Bishop of St Davids; Church Times, 18 Hydref 2023