Bernard, Esgob Tyddewi

Oddi ar Wicipedia
Bernard, Esgob Tyddewi
Ganwyd11 g Edit this on Wikidata
Bu farwHydref 1148 Edit this on Wikidata
Galwedigaethoffeiriad Edit this on Wikidata

Bernard (bu farw 1148) oedd y Norman cyntaf i fod yn Esgob Tyddewi.

Dechreuodd ei yrfa fel caplan i'r frenhines Matilda, yna daeth yn ganghellor iddi. Apwyntiwyd ef i'r swydd gan Harri I, brenin Lloegr, yn 1115. Dywedir ei fod yn ysgolhaig da, ond fel Norman nid oedd yn dderbyniol gan y Cymry ar y cychwyn, ac ymddengys iddo dreulio llawer o amser ymhell o esgobaeth Tyddewi. Ef a sefydlodd bedair archddiaconiaeth yr esgobaeth. Ar farwolaeth Harri, fodd bynnag, achubodd Bernard y cyfle i hawlio fod gan Dyddewi awdurdod dros esgobaethau eraill Cymru, ac y dylai fod yn Archesgobaeth arnyn hwy. Cyflwynodd ei achos i chwech pab yn olynol, ond heb lwyddiant. Yn ddiweddarach, adfywiwyd yr hawl yma gan Gerallt Gymro.