Carl N. Cooper
Carl N. Cooper | |
---|---|
Ganwyd | 4 Awst 1960 |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | offeiriad |
Cyn-Esgob Tyddewi yw Carl N. Cooper (ganed 1960). Bu'n esgob o 2002 hyd 2008, pan ymddiswyddodd yn dilyn trafodaeth yn y cyfryngau am ei fywyd personol.
Magwyd Cooper yn Wigan yn Swydd Gaerhirfryn. Daeth i Gymru fel myfyriwr yn Llanbedr Pont Steffan, lle cymerodd radd mewn Ffrangeg; yn ddiweddarach astudiodd Ddiwinyddiaeth yn Neuadd Wycliffe, Rhydychen. Mae wedi dysgu Cymraeg yn rhugl, a chafodd radd M. Phil. am astudiaeth o ddwyrieithrwydd yn yr Eglwys yng Nghymru.
Bu'n giwrad yn Llanelli ac yna'n rheithor Ciliau Aeron, Ceredigion, cyn symud i dref Dolgellau a dod yn Archddiacon Meirionnydd. Etholwyd ef yn Esgob Tyddewi yn 2002. Yn Chwefror 2008, cyhoeddwyd ei fod ef a'i wraig yn ymwahanu wedi 25 mlynedd o briodas. Bu damcaniaethu yn y wasg am y berthynas rhyngddo a'i gaplan, y Parchedig Mandy Williams Potter, ac wedi trafodaeth ag Archesgob Cymru, cymerodd Cooper gyfnod o absenoldeb yn mis Mawrth. Ar 29 Ebrill, 2008, cyhoeddwyd ei fod yn ymddiswyddo.