Sadyrnin

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Sadyrnin
Ganwyd 8G Edit this on Wikidata
Bu farw 831 Edit this on Wikidata (130 oed)
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru

Clerigwr a fu'n Esgob Tyddewi yn chwarter cyntaf y 9g oedd Sadyrnin (m. 831). Ceir y ffurf Sadwrnfe ar ei enw hefyd mewn rhai ffynonellau.[1]

Hanes a thraddodiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Ceir ansicrwydd ynglŷn ag unoliaeth Sadyrnin/Sadwrnfe. Ceir Llansadyrnin yn ne-orllewin Sir Gaerfyrddin a cheisia rhai haneswyr ei uniaethu â'r esgob o'r 9g ond ymddengys fod y llan yn hŷn ac mae'n bosibl mai sant cynnar o'r un enw a'i sefydlodd. Ni wyddom ddim am y sant hwnnw.[1]

Olynodd Sadyrnin yr Esgob Maesgwyd ond ni wyddys ym mha flwyddyn y bu hynny. Olynwyd Sadyrnin yn ei dro gan Cadell yn y flwyddyn 831 a gellir derbyn y bu farw Sadyrnin yn y flwyddyn honno neu'n fuan wedyn. Cafodd Sadyrnin ei sancteiddio gan yr Eglwys Gatholig Rufeinig yn yr Oesoedd Canol.[1]

Ffynhonnell[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 1.2 T. D. Breverton, A Book of Welsh Saints (Cyhoeddiadau Glyn Dŵr, 2000).

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]