Simoniaeth

Oddi ar Wicipedia
Darluniad o abad yn cysegr-fasnachu mewn llawysgrif oliwiedig o'r 12g.

Prynu a gwerthu breintiau yn yr eglwys Gristnogol yw simoniaeth[1][2] neu gysegr-fasnach.[1][3] Gan amlaf mae'r gair yn cyfeirio at farchnadaeth mewn urddau cysegredig a swyddi eglwysig, yn enwedig fel pechod a throsedd sy'n groes i'r gyfraith ganonaidd. Yn ôl diffiniad ehangach mae'n cynnwys masnach mewn unrhyw fraint, bywoliaeth neu ddyrchafiad eglwysig, gan gynnwys maddeuebau a gwrthrychau cysegredig.[4][5] O ganlyniad i hanes simoniaeth yn yr Eglwys Gatholig, mae deddfau yn erbyn y pechod yn llym iawn. Mae'n bosib i glerigwr sy'n euog o simoniaeth gael ei ysgymuno.[4]

Arfer brin iawn oedd simoniaeth yng nghyfnod cynnar yr eglwys. Wrth iddi ddod yn gyfoethocach ac yn fwy dylanwadol yn y 4g, dechreuodd yr Eglwys Gatholig werthu urddau eglwysig. Cyfraith Cyngor Chalcedon (451) oedd yr ymgais cyntaf i ymdrin â'r mater. Gwaharddai cysegr-fasnach yn yr esgobaeth, yr offeiriadaeth, a'r ddiaconiaeth. Yn hwyrach fe estynodd y trosedd i gynnwys prynu a gwerthu pob un fywoliaeth eglwysig a phob pryniant ariannol ar yr offeren (ac eithrio'r offrwm awdurdodedig), olewon cysegredig, a bendithiau eraill. Er ei statws anghyfreithlon, lledaenodd yr arfer ac roedd simoniaeth yn rhemp ar draws Ewrop erbyn y 9g a'r 10g.[6] Simoniaeth enbyd a chyffredin oedd y sbardun pwysicaf i ddiwygiadau'r Babaeth yn y 11g. Llwyddodd y Pab Grigor VII (1073–85) i leihau'r achosion o simoniaeth. Yn ôl cyfraith y Pab Iŵl II (1503) mae modd i simoniaeth annilysu'r etholiad pabaidd. Yn sgil Cyngor Trent yn (1545–63) fe waharddid gwerthu maddeuant a ni cheir gwerthu gwrthrychau cysegredig.[4] Wedi'r 16g, diflanodd simoniaeth amlwg wrth i'r Eglwys Gatholig golli ei grym, ei gwaddolion a'i heiddo.[6]

Geirdarddiad[golygu | golygu cod]

Paentiad olew gan Avanzino Nucci o Simon y dewin (mewn gwisg ddu) yn cynnig ei arian i Bedr (1620).

"Pan welodd Simon fod yr Ysbryd Glân yn dod pan oedd yr apostolion yn gosod eu dwylo ar bobl, cynigodd dalu iddyn nhw am y gallu i wneud yr un peth. "Rhowch y gallu yma i minnau hefyd, er mwyn i bawb fydda i yn gosod fy nwylo arnyn nhw dderbyn yr Ysbryd Glân," meddai.
Ond dyma Pedr yn ei ateb, "Gad i dy arian bydru gyda ti! Rhag dy gywilydd di am feddwl y gelli di brynu rhodd Duw! Does gen ti ddim rhan yn y gwaith – dydy dy berthynas di gyda Duw ddim yn iawn. Tro dy gefn ar y drygioni yma a gweddïa ar yr Arglwydd. Falle y gwnaiff faddau i ti am feddwl y fath beth. Rwyt ti'n ddyn chwerw, ac mae pechod wedi dy ddal di yn ei grafangau."
Meddai Simon, "Gweddïa ar yr Arglwydd drosto i, fel na fydd beth rwyt ti'n ei ddweud yn digwydd i mi."

— Actau 8:18–24[7]

Daw'r enw simoniaeth o Simon y dewin, cymeriad Beiblaidd a geisiodd brynu doniau'r Ysbryd Glân oddi ar yr Apostolion Pedr ac Ioan. Traddodai ei hanes yn wythfed bennod Actau'r Apostolion yn y Testament Newydd. Câi'r cynnig ei wrthod gan Bedr sy'n rhybuddio Simon rhag pechu drwy geisio prynu rhodd Duw. Bathai'r gair simōnia yn y Lladin Diweddar i grybwyll stori Simon y dewin. Datblygodd y ffurf simonie yn yr Hen Ffrangeg.[8] Ymddengys "symoniaeth" yn Gymraeg ar ddechrau'r 15g, a daeth y gair i'r Gymraeg naill ai o'r Saesneg Canol simon(i) neu'n uniongyrchol o'r Hen Ffrangeg.[2] Ceir hefyd y ffurfiau simonaeth,[2] simonyddiaeth,[9] simoni,[10] a simonai[10] yn y Gymraeg. Dyddia'r cyfansoddair cysegr-werth o'r flwyddyn 1630,[11] a "cysegr-fasnach" (sy'n fwy cyffredin heddiw) o 1798.[3]

Llenyddiaeth[golygu | golygu cod]

Darluniad gan William Blake o artaith y "Pab Simonaidd".
Ysgythriad gan Gustave Doré o Dante, yng nghwmni Fyrsil, yn annerch y Pab Niclas III.

Yn Nwyfol Cân Dante (Canto XIX, Inferno) mae portread enwoca'r simonwyr yn llenyddiaeth Ewrop. Yn wythfed gylch uffern (Malebolge), carcharai'r simonwyr yn y drydedd ffos (bolgia). Cenir Dante am gysegr-fasnach mewn trosiadau sy'n gwyrdroi glân iaith y Cristion: condemnia'r rhai yma yn gosb am "buteinio'r briodferch sanctaidd", sef yr eglwys a chanddi stad briodasol â'r priodfab Crist.[12] Rhoddir y pechadur â'i ben i waered mewn twll yn y graig, mewn dynwarediad o'r bedyddfaen, a'r tân yn llosgi'r traed. Ymddengys sawl pab ymhlith y collfarnedig: Niclas III, Boniffas VIII, a Clement V ("Pab Avignon", a oedd yn byped i Philip IV, brenin Ffrainc).

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Geiriadur yr Academi, [simony].
  2. 2.0 2.1 2.2  simoniaeth. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 8 Mawrth 2017.
  3. 3.0 3.1  cysegr-fasnach. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 8 Mawrth 2017.
  4. 4.0 4.1 4.2 (Saesneg) Simony yn y Columbia Encyclopedia, 6ed argraffiad. Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 8 Mawrth 2017.
  5. (Saesneg) Simony yn The Oxford Companion to British History (Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2002). Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 8 Mawrth 2017.
  6. 6.0 6.1 (Saesneg) simony. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 8 Mawrth 2017.
  7. Actau 8, beibl.net. Adalwyd ar 8 Mawrth 2017.
  8. (Saesneg) Simony yn The Concise Oxford Dictionary of English Etymology (Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1996). Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 8 Mawrth 2017.
  9.  simonyddiaeth. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 8 Mawrth 2017.
  10. 10.0 10.1  simoni. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 8 Mawrth 2017.
  11.  cysegr-werth. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 8 Mawrth 2017.
  12. (Saesneg) Dante's Inferno: Circle 8, subcircles 1-6, cantos 18-23, Prifysgol Texas, Austin. Adalwyd ar 8 Mawrth 2017.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: