Sulien

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Gweler hefyd Sulien (sant) (a adnabyddir hefyd fel Silian).
Sulien
Ganwyd 1011 Edit this on Wikidata
Cymru, Llanbadarn Fawr Edit this on Wikidata
Bu farw 1091 Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth Offeiriad, Esgob Tyddewi, ysgolhaig Edit this on Wikidata
Cysylltir gyda Llanbadarn Fawr Edit this on Wikidata
Plant Rhygyfarch ap Sulien Edit this on Wikidata

Roedd Sulien (c. 1010 - 1091) yn ysgolhaig Cymreig ac yn Esgob Tyddewi.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd Sulien, sy'n gysylltiedig yn bennaf a chlas Llanbadarn Fawr, yn enwog am ei ysgolheictod. Bu ganddo bedwar mab, sef Rhygyfarch, Daniel, Ieuan ac Arthan, a pharhawyd traddodiad Llanbadarn o ysgolheictod ganddynt hwy a chan ei meibion hwythau.

Mae'r wybodaeth am Sulien yn dod o gerdd Ladin a ysgrifennodd ei fab Ieuan iddo. Dywed fod Sulien o dras bonheddig, a'i fod wedi treulio tair blynedd ar ddeg yn astudio yn Iwerddon. Bu'n Esgob Tyddewi ddwywaith, o 1073 hyd 1078 ac yna o 1080 hyd 1085.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]