Thomas Burgess
Thomas Burgess | |
---|---|
Ganwyd | 18 Tachwedd 1756 Odiham |
Bu farw | 19 Chwefror 1837 |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, Teyrnas Prydain Fawr |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | offeiriad |
Swydd | esgob, Esgob Caersallog |
Gwobr/au | Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol, Cymrawd Gymdeithas yr Hynafiaethwyr |
Awdur ac athronydd o Loegr oedd Thomas Burgess (18 Tachwedd 1756 – 19 Chwefror 1837), a ddaeth yn Esgob Tyddewi ac, yn ddiweddarach yn ei yrfa, yn Esgob Caersallog.
Bywyd
[golygu | golygu cod]Ganed Burgess yn Odiham, Hampshire, a chafodd ei addysg yn Ysgol Robert May, Odiham, Coleg Caerwynt a Choleg Corpus Christi, Rhydychen. Cyn raddio, golygodd argraffiad newydd o Pentalogia John Burton. Yn 1781 golygodd argraffiad o lyfr Richard Dawes, Miscellaneci Critica. Yn 1783 daeth yn gymrawd o'i goleg ac yn 1785 cafodd ei apwyntio yn gaplan i Shute Barrington, esgob Caersallog, a'i helpodd i gychwyn ar ei yrfa glerigol.
Yn 1788 cyhoeddodd ei Considerations on the Abolition of Slavery, a awgrymodd ddodd â chaethwasiaeth i ben ond dros amser yn hytrach nag ar unwaith. Yn 1791 aeth gyda Barrington i ddinas Durham.
Yn 1803 cafodd ei apwyntio yn Esgob Tyddewi, ac arosodd yno am ugain mlynedd. Sefydlodd gangen o'r SPCK yn yr esgobaeth a hefyd Coleg Dewi Sant (Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan heddiw). Cyfranodd yn helaeth i'r coleg newydd a gadawodd ei lyfrgell sylweddol iddo yn ei ewyllys. Yn wreiddiol bwriad Burgess oedd adeiladu ei goleg newydd i hyfforddi offeiriaid yn Llanddewi Brefi (oedd ar y pryd yn debyg o ran maint i Lanbedr Pont Steffan, deg cilomedr i ffwrdd ac yn fan pwysig yn hanes Cristnogaeth yng Nghymru), ond pan oedd Burgess yn aros gyda'i gyfaill Esgob Caerloyw ym 1820 cyfarfu â John Scandrett Harford, dyn cyfoethog a thirfeddiannwr mawr yn ardal Llanbedr Pont Steffan. Rhoddodd Harford safle tair erw i Burgess, sef Maes y Castell (safle'r brifysgol heddiw). Fel hyn, Sefydlwyd Coleg Dewi Sant ym 1822 a derbyniwyd y myfyrwyr cyntaf ar Ŵyl Ddewi 1827. Derbyniodd ei siartr cyntaf ym 1828.
Yn ystod ei dymor yn Nhyddewi magodd ddiddordeb dwfn a diffuant yn hanes eglwysig Cymru a thraddodiad llenyddol y wlad. Gyda Iolo Morganwg, cymerodd ran yn Eisteddfod Caerfyrddin 1819. Roedd yn boblogaidd gan y Cymry, er ei fod yn Sais, am ei fod yn hyrwyddo agweddau mwy Cymreig ar weithgareddau Eglwys Loegr yng Nghymru.
Yn 1823 cafodd ei apwyntio yn Esgob Caersallog, lle bu am ddeuddeg mlynedd. Ond roedd yn geidwadol o ran ei ddiwinyddiaeth a gwrthwynebai Undodiaeth a rhyddid addoliad i Gatholigion.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]Ceir rhestr o'i weithiau niferus yn ei fywgraffiad gan J.S. Harford (ail arg., 1841). Yn ogystal â'r llyfrau uchod, gelllir nodi: Essay on the Study of Antiquities, The First Principles of Christian Knowledge; Reflections on the Controversial Writings of Dr Priestley, Emendationes in Suidam et Hesychium et alios Lexicographos Graecos; The Bible, and nothing but the Bible, the Religion of the Church of England.
Astudiaethau
[golygu | golygu cod]- John Scandrett Harford, The Life of Thomas Burgess, D.D., F.R.S., F.A.S. &c. &c. &c. late Lord Bishop of Salisbury (Llundain, 1840)
- D T W Price, Yr Esgob Burgess a Choleg Llanbedr: Bishop Burgess and Lampeter College (Gwasg Prifysgol Cymru, 1987)
- Athronwyr y 18fed ganrif o Loegr
- Athronwyr y 19eg ganrif o Loegr
- Diwygwyr cymdeithasol
- Esgobion Tyddewi
- Esgobion Caersallog
- Genedigaethau 1756
- Llenorion o Loegr
- Llenorion y 18fed ganrif o Loegr
- Llenorion y 19eg ganrif o Loegr
- Marwolaethau 1837
- Pobl o Hampshire
- Pobl y 18fed ganrif o Loegr
- Pobl y 19eg ganrif o Loegr