Dydd Gŵyl Dewi

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Dathliadau Dydd Gŵyl Dewi ym Mae Caerdydd, 2008
Merch yn ei gwisg Gymreig yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi yn Abermaw. Ffotograff gan Geoff Charles (1960).

Dydd Gŵyl Dewi Sant ar 1 Mawrth yw'r diwrnod y dethlir Dewi Sant, nawddsant Cymru. Bydd nifer o blant yn gwisgo'r wisg Gymreig ac yn cystadlu mewn eisteddfodau ysgol—yn arbennig trwy ganu ac adrodd. Bydd llawer o bobl o bob oed yn gwisgo cenhinen bedr (a welir fel arwyddlun Cymreig) neu genhinen (arwyddlun Dewi Sant) ar y diwrnod. Cynhelir nifer o Nosweithiau Llawen a chyngerddau. Hefyd y mae nifer o gymdeithasau yn cael noson gawl a gŵr gwadd i'w hannerch.

Mae'r cyntaf o Fawrth wedi bod yn ŵyl genedlaethol ers canrifoedd ; yn ôl y traddodiad bu farw Dewi Sant ar y cyntaf o Fawrth 589 OC.. Gwnaed y dyddiad yn ddydd cenedlaethol (answyddogol) Cymru yn y 18g.

Cynhelir gorymdaith flynyddol yng Nghaerdydd i ddathlu'r ŵyl. Yn 2006 yn yr Unol Daleithiau cafodd Dydd Gŵyl Dewi ei gydnabod yn swyddogol fel diwrnod cenedlaethol y Cymry, ac ar y cyntaf o Fawrth cafodd yr 'Empire State Building' ei oleuo yn lliwiau baner Cymru. Mae cymdeithasau Cymreig drwy'r byd yn dathlu drwy gynnal ciniawau, partion a chyngerddau.

Adeilad yr Empire State gyda lliwiau baner Cymru (gwyn, coch a gwyrdd) ar Ddydd Gŵyl Dewi 2006.

Cododd problem yn 2006 o ran agwedd grefyddol yr ŵyl, gan fod y cyntaf o Fawrth yn disgyn ar Ddydd Mercher Lludw, sy'n cael ei ystyried yn ddiwrnod anaddas i ddathlu. O ganlyniad, dathlwyd y diwrnod ar 28 Chwefror gan y Catholigion ac ar 2 Mawrth gan yr Eglwys yng Nghymru.

Mae ymgyrch ar droed i gael Dydd Gŵyl Dewi yn ddydd gŵyl banc swyddogol yng Nghymru. Yn ôl arolwg a gynhaliwyd ar Ddydd Gŵyl Dewi 2006 yr oedd 87% o bobl Cymru yn cefnogi hyn, gyda 65% yn barod i aberthu gŵyl banc arall yn ei le.

Gorymdeithiau Gŵyl Ddewi[golygu | golygu cod y dudalen]

Poster o Orymdaith Wrecsam i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi.

Yn y 2010au cynyddodd y nifer o orymdeithiau; mae'n ymddangos mai Caerdydd, Aberystwyth a Wrecsam oedd y cyntaf gyda'r ardaloedd canlynol yn dilyn:

Y Sadwrn cyn yr Ŵyl
1af o Fawrth
Y Sadwrn wedi'r Ŵyl
  • Aberystwyth, cynhaliwyd y cyntaf yn 2013 gan gerdded o Gloc y Dref i sgwâr Llys y Brenin. Yn ôl y trefnydd, Siôn Jobbins, cynhelir y digwyddiad i "ddathlu Dewi, y Gymraeg a'n traddodiadau unigryw". Ysbrydolwyd y Parêd gan orymdaith Caerdydd.
  • Abertawe tua 15.00 yp
  • Bangor (ers 2016) 12.45 yp
Sul wedi'r Ŵyl
Wythnos
  • Llandeilo, cynhelir wythnos o weithgareddau yn yr ardal i ddathlu'r ŵyl (2017), ond nid oedd gorymdaith.[3]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. urdd.cymru; adalwyd 9 Chwefror 2017.
  2. Gwefan Cyngor Sir Wrecsam. Adalwyd 25 Chwefror 2017.
  3. llandeilo.gov.uk; adalwyd 9 Chwefror 2017.

Dolenni Allanol[golygu | golygu cod y dudalen]