Joanna Penberthy

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Offeiriad Anglicanaidd yw Joanna Susan "Jo" Penberthy (ganwyd 1960). Ers mis Medi 2015, mae wedi bod yn Rheithor Bywoliaeth Glan Ithon, sy'n cynnwys Llandrindod a'r pentrefi cyfagos, yn Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu.[1][2] Ym mis Tachwedd 2016, cyhoeddwyd ei bod wedi ei dewis fel Esgob Tyddewi nesaf; y fenyw gyntaf i fod yn esgob yn yr Eglwys yng Nghymru.[3][4] Fe fydd yn cael ei chysegru yn esgob ar 21 Ionawr 2017 a'i gorseddu yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi ar 11 Chwefror 2017.[3]

Mae hi wedi gweinidogaethu yn Eglwys Loegr a'r Eglwys yng Nghymru a chyn hynny gwasanaethodd fel diacones yn Esgobaeth Durham ac Esgobaeth Llandaf, fel diacon yn Esgobaeth Llandaf, Esgobaeth Llanelwy, ac Esgobaeth Tyddewi, a fel offeiriad yn Esgobaeth Tyddewi, Esgobaeth Bath a Wells, ac Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1.  Moving on: Revd Canon Joanna Penberthy. Siocese of Bath and Wells (23 Gorffennaf 2015). Adalwyd ar 2 Tachwedd 2016.
  2. 2.0 2.1 "Joanna Susan Penberthy".
  3. 3.0 3.1  New Bishop of St Davids elected. The Church in Wales. Adalwyd ar 2 November 2016.
  4.  Canon Joanna Penberthy elected Wales' first woman bishop (2 Tachwedd 2016). Adalwyd ar 2 Tachwedd 2016.