Coleg Newnham, Caergrawnt
Gwedd
| Coleg Newnham, Prifysgol Caergrawnt | |
| Sefydlwyd | 1871 |
| Enwyd ar ôl | Newnham, Swydd Gaergrawnt |
| Lleoliad | Sidgwick Avenue, Caergrawnt |
| Chwaer-Goleg | Neuadd yr Arglwyddes Margaret, Rhydychen |
| Prifathro | Alison Rose |
| Is‑raddedigion | 398 |
| Graddedigion | 148 |
| Gwefan | www.newn.cam.ac.uk |
Un o golegau cyfansoddol Prifysgol Caergrawnt yw Coleg Newnham (Saesneg: Newnham College).
Ffurfwyd y coleg yn 1871 gan grŵp yn trefnu Darlithoedd i Ferched (Saesneg: Lectures for Ladies), gydag aelodau yn cynnwys yr athronydd Henry Sidgwick a'r ymgyrchydd swffragistaidd Millicent Garrett Fawcett. Daeth Coleg Newnham yr ail coleg ar gyfer merched i gael ei ffurfio yng Nghaergrawnt, gan ddilyn Coleg Girton. Dathlwyd pen-blwydd y coleg yn 150 drwodd 2021 a 2022.
Cynfyfyrwyr
[golygu | golygu cod]- Frances Parker, swffragét a ffeminist rhonc o Seland Newydd
- Elizabeth Phillips Hughes (1851–1925), y ferch gyntaf i gael gradd dosbarth cyntaf yng Ngholeg Newnham, Caergrawnt, yn 1881
- Sylvia Plath (1932–1963), bardd
- Miriam Margolyes (g. 1941), actores
- Diane Abbott (g. 1953), gwleidydd
- Emma Thompson (g. 1959), actores, cyfarwyddwr ffilm a sgriptiwr ffilm
- Jane Goodall