Coleg Girton, Caergrawnt

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Coleg Girton
Girton College, Cambridge, England, 1890s.jpg
Girton crest.svg
Math coleg ym Mhrifysgol Caergrawnt, adeilad prifysgol Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôl Girton Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 16 Hydref 1869 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir De Caergrawnt, Cambridge Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 52.2286°N 0.0839°E Edit this on Wikidata
Manylion
Statws treftadaeth adeilad rhestredig Gradd II* Edit this on Wikidata
Sylfaenwyd gan Emily Davies, Barbara Bodichon, Henrietta Stanley, Baroness Stanley of Alderley Edit this on Wikidata

Un o golegau cyfansoddol Prifysgol Caergrawnt yw Coleg Girton (Saesneg: Girton College). Fe'i sefydlwyd ar 16 Hydref 1869 gan Emily Davies a Barbara Bodichon, y coleg preswyl cyntaf i fenywod yn Lloegr. Fe'i lleolwyd yn Swydd Hertford ar y cychwyn, ond yn 1872 prynwyd y safle presennol, oddeutu dwy filltir a hanner o ganol Caergrawnt ar Ffordd Huntingdon ger pentref Girton. Yn 1873, ail-agorodd y coleg ar y safle newydd dan ei enw presennol. Fe wnaed sawl ychwanegiad i adeiladau'r coleg dros y flynyddoedd, gan gynnwys estyniad diweddar i'r llyfrgell.

Ar 27 Ebrill 1948 estynnwyd aelodaeth lawn Prifysgol Caergrawnt i ferched, a daeth Girton yn un o golegau'r brifysgol. Mae Girton yn goleg cymysg erbyn hyn; cyrhaeddodd y cymrodyr gwrywaidd cyntaf ym 1977, ac estynnwyd mynediad i is-raddedigion gwrywaidd ym 1979.

Meistres y coleg yw'r Athro-Foneddiges Marilyn Strathern.

Cynfyfyrwyr[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Hertha Marks Ayrton, Peirianydd trydanol
  • Margaret Cole, (1893 – 1980), gwleidydd a bardd
  • Isabel Cooper-Oakley, Ysgrifenwraig theosoffaidd
  • Brenda Hale, Barwnes Richmond
  • Jessie Isabel Hetherington, addysgwraig Seland Newydd
  • Arianna Huffington, awdures a gweithredwraig wleidyddol
  • Wendy Holden, nofelydd
  • Rosamond Lehmann, nofelydd
  • Sheila Scott Macintyre, mathemategydd
  • Ada Isabel Maddison, mathemategydd
  • Margrethe II, brenhines Denmarc
  • Dorothy Marshall, hanesydd ac addysgwraig
  • Annie Maunder, seryddwraig
  • Constance Maynard, ffeminydd ac addysgwraig
  • Sarojini Naidu, bardd Indiaidd
  • Sheila Pim, awdur
  • Emily James Smith Putnam, addysgwraig a hanesydd Americanaidd
  • Gisela Richter, archaeolegwraig glasurol a hanesydd celf
  • Joan Robinson, economegydd brydeinig
  • Clara Ruth Rouse, cenhadwraig grefyddol
  • Ethel Sargant, botanegydd
  • Charlotte Angas Scott, mathemategydd
  • Irene Spry, hanesydd economaidd
  • Margaret Storey, awdur llyfrau plant
  • Bertha Swirles (yr Arglwyddes Jeffreys), ffisegydd
  • Sandi Toksvig, digrifwraig
  • Tywysoges Takamado o Japan
  • Renee Winegarten, dadansoddwraig lenyddol
  • Barbara Adam Wootton, gwyddonydd gymdeithasol ac economegydd
  • Dorothy Wrinch, biolegydd mathemategol
  • Grace Chisholm Young, mathemategydd
  • Derek Walcott, bardd, awdur, artist
  • Gwyneth Lewis, bardd ac awdur Cymreig
Arfbais Caergrawnt.jpg Eginyn erthygl sydd uchod am Gaergrawnt. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.