Brenda Hale

Oddi ar Wicipedia
Brenda Hale
Ganwyd31 Ionawr 1945 Edit this on Wikidata
Swydd Efrog Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd, barnwr, academydd, bargyfreithiwr Edit this on Wikidata
SwyddLlywydd Goruchaf Lys y Deyrnas Unedig, Justice of the Supreme Court of the United Kingdom, aelod o Dŷ'r Arglwyddi, aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, yr Arglwyddi Apêl, High Court judge, Dirprwy Lywydd Goruchaf Lys y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Cyflogwr
PriodJohn Hoggett, Julian Farrand Edit this on Wikidata
PlantJulia Hoggett Edit this on Wikidata
Gwobr/auBonesig Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig, Cymrawd yr Academi Brydeinig Edit this on Wikidata

Mae Brenda Marjorie Hale, Y Farwnes Hale o Richmond, neu'r Arglwyddes Hale (ganed 31 Ionawr 1945), yn farnwr sydd yn Llywydd Goruchaf Lys y Deyrnas Gyfunol ers 2017.

Sefydlwyd swydd Llywydd y Goruchaf Lys yn 2009, a Hale yw'r trydydd i ymgymryd â'r swydd, a'r fenyw gyntaf. Mae hi'n un o dair menyw i'w hapwyntio i'r Goruchaf Lys, ynghyd â Jill Black a Mary Arden.

Ers 2018, mae Hale hefyd yn un o farnhwyr amharhaol Llys Apêl Olaf Hong Kong. Hithau a Beverley McLachlin yw'r menwyod cyntaf i wasanaethu yn y llys hwnnw. Mae Hale hefyd yn Llywydd Anrhydeddus Cymdeithas y Gyfraith Prifysgol Caergrawnt ers 2015.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Ganed Hale yn Leeds, Swydd Efrog ym 1945. Aeth i'r ysgol yn Richmond yng Ngogledd Swydd Efrog, gan fynd ymlaen i astudio'r gyfraith yng Ngholeg Girton yng Nghaergrawnt. Wedi gweithio fel darlithydd cynorthwyol ym Mhrifysgol Victoria ym Manceinion, daeth yn fargyfreithiwr ym 1969.

Bu'n gweithio fel bargyfreithiwr rhan amser, gan dreulio 18 mlynedd yn y byd academaidd yn bennaf, gan ddod yn Athrawes y Gyfraith ym Mhrifysgol Manceinion ym 1986. Ym 1984, hi oedd y fenyw gyntaf a'r person ieuengaf i'w phenodi'n aelod o Gomisiwn y Gyfraith, gan oruchwylio nifer o ddiwygiadau i gyfraith teuluoedd yn ystod ei naw mlynedd ar y Comisiwn.

Gyrfa Farnwrol[golygu | golygu cod]

Ar 24 Medi 2019, barnodd Hale a deg o'i chyd-farnwyr yn unfrydol fod penderfyniad Boris Johnson i addoedi Senedd y Deyrnas Gyfunol (i) yn ddarostyngedig i'r gyfraith, a (ii) yn anghyfreithiol, ac felly yn "ddi-rym ac heb effaith"[1].

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Boris Johnson wedi torri'r gyfraith, meddai'r Goruchaf Lys". Golwg 360. 2019-09-24. Cyrchwyd 2019-09-25.