Margaret Cole

Oddi ar Wicipedia
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Margaret Cole
Margaret Cole in 1944-45 by Stella Bowen who died in 1947.jpg
Ganwyd6 Mai 1893 Edit this on Wikidata
Caergrawnt Edit this on Wikidata
Bu farw7 Mai 1980 Edit this on Wikidata
Goring-on-Thames Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd, darlithydd, hanesydd, cofiannydd, nofelydd, swffragét, economegydd, ymchwilydd Edit this on Wikidata
Swyddmember of London County Council Edit this on Wikidata
TadJohn Percival Postgate Edit this on Wikidata
PriodG. D. H. Cole Edit this on Wikidata
Gwobr/auBonesig Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig Edit this on Wikidata

Ffeminist o Loegr oedd Margaret Isabel Cole (née Postgate; 6 Mai 1893 - 7 Mai 1980) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel gwleidydd, darlithydd, hanesydd, cofiannydd a nofelydd.

Fe'i ganed yn Y Deyrnas Unedig ar 6 Mai 1893; bu farw yn Y Deyrnas Unedig. Bu'n briod i G. D. H. Cole. Ysgrifennodd sawl stori dditectif ar y cyd â'i gŵr, G. D. H. Cole. Aeth ymlaen i ddal swyddi pwysig yn llywodraeth Llundain yn y cyfnod ar ôl yr Ail Ryfel Byd. [1][2][3]

Roedd yn ferch i John Percival Postgate ac Edith (née Allen) Postgate. Derbyniodd Margaret ei haddysg yn Ysgol Roedean a Choleg Girton, Caergrawnt. Tra yn Girton, trwy ddarllen gwaith H. G. Wells, George Bernard Shaw ac eraill, daeth i gwestiynu Anglicaniaeth ei magwraeth ac i gofleidio sosialaeth.

Yr adeg honno, a hyd at 1947, nid oedd hawl gan ferched prifysgolion Caergrawnt i raddio, ond gorffennodd Margaret ei chwrs yn llwyddiannus. Aeth yn athrawes yn y clasuron i Ysgol y Sant Paul. Mae ei cherdd The Falling Leaves yn adwaith i'r Rhyfel Byd Cyntaf, ac mae'n gerdd a astudiwyd yn Lloegr (2018) ar gwricwlwm disgyblion 15-16 oed. Gwelir yn y gerdd dylanwad y Lladin.

Rhyfel Byd Cyntaf[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, ceisiodd ei brawd Raymond Postgate gael ei eithrio o wasanaeth milwrol fel gwrthwynebydd cydwybodol, sosialaidd, ond gwrthodwyd hynny gan ei garcharu am wrthod gorchmynion milwrol. Arweiniodd ei chefnogaeth i'w brawd hi i gredu mewn heddychiaeth. Yn ystod ei hymgyrch yn erbyn consgripsiwn, cyfarfu â G. D. H. Cole, a briododd mewn swyddfa gofrestru ym mis Awst 1918. Gweithiodd y cwpl gyda'i gilydd dros y Gymdeithas Fabian cyn symud i Rydychen yn 1924, lle darlithiodd ac ysgrifennodd y ddau ohonynt. Yn gynnar yn y 1930au, gadawodd Margaret ei heddychiaeth pan glywodd am weithgareddau Llywodraethau'r Almaen ac Awstria acfel ymaeb i Ryfel Cartref Sbaen.

Storiau ditectif[golygu | golygu cod y dudalen]

G. D. H. a M. I. Cole

  • (1925) The Death of a Millionaire
  • (1926) The Blatchington Tangle
  • (1927) The Murder at Crome House[4]
  • (1928) The Man from the River
  • (1928) Superintendent Wilson's Holiday
  • (1929) Poison in the Garden Suburb aka Poison in a Garden Suburb
  • (1930) Burglars in Bucks aka The Berkshire Mystery
  • (1930) Corpse in Canonicalsaka The Corpse in the Constable's Garden
  • (1931) The Great Southern Mystery aka The Walking Corpse
  • (1931) Dead Man's Watch
  • (1932) Death of a Star
  • (1933) A Lesson in Crime (short stories)
  • (1933) The Affair at Aliquid
  • (1933) End of an Ancient Mariner
  • (1934) Death in the Quarry
  • (1935) Big Business Murder
  • (1935) Dr Tancred Begins
  • (1935) Scandal at School aka The Sleeping Death
  • (1936) Last Will and Testament
  • (1936) The Brothers Sackville
  • (1937) Disgrace to the College
  • (1937) The Missing Aunt
  • (1938) Mrs Warrender's Profession
  • (1938) Off with her Head!
  • (1939) Double Blackmail
  • (1939) Greek Tragedy
  • (1940) Wilson and Some Others
  • (1940) Murder at the Munition Works
  • (1940) Counterpoint Murder
  • (1941) Knife in the Dark
  • (1942) Toper's End
  • (1945) Death of a Bride
  • (1946) Birthday Gifts
  • (1948) The Toys of Death

Bywgraffiadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Aelodaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu'n aelod o Gymdeithas y Ffabiaid am rai blynyddoedd.

Anrhydeddau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Bonesig Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig .


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb12338202r; ffeil awdurdod y BnF; dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  2. Disgrifiwyd yn: http://digitale.beic.it/primo_library/libweb/action/search.do?fn=search&vid=BEIC&vl%283134987UI0%29=creator&vl%28freeText0%29=Cole%20Margaret; adran, adnod neu baragraff: Cole, Margaret 1893-1980.
  3. Tad: Colin Matthew, ed. (2004) (yn en), Oxford Dictionary of National Biography, Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, Wikidata Q17565097, https://www.oxforddnb.com/
  4. Curtis Evans (28 Tachwedd 2016). Murder in the Closet: Essays on Queer Clues in Crime Fiction Before Stonewall. McFarland. tt. 131–. ISBN 978-0-7864-9992-2.