Goring-on-Thames

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Goring-on-Thames
GoringMill01.JPG
Math pentref, plwyf sifil Edit this on Wikidata
Ardal weinyddol Ardal De Swydd Rydychen
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynol Goring and Streatley Edit this on Wikidata
Sir Swydd Rydychen
(Sir seremonïol)
Gwlad Baner Lloegr Lloegr
Arwynebedd 9.61 km² Edit this on Wikidata
Gerllaw Afon Tafwys Edit this on Wikidata
Yn ffinio gyda South Stoke, Whitchurch-on-Thames, Goring Heath, Woodcote Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 51.523°N 1.135°W Edit this on Wikidata
Cod SYG E04008131 Edit this on Wikidata
Cod OS SU600807 Edit this on Wikidata
Cod post RG8 Edit this on Wikidata

Pentref a phlwyf sifil yn Swydd Rydychen, De-ddwyrain Lloegr, ydy Goring-on-Thames[1] neu Goring. Fe'i lleolir yn ardal an-fetropolitan De Swydd Rydychen.

Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y plwyf sifil boblogaeth o 3,187.[2]

Saif Goring 13 km (8 mi) i'r gogledd-orllewin o Reading ac 26 km (16 mi) i'r de o Rydychen. Mae'r pentref ar lan chwith Afon Tafwys, ym Mwlch Goring, sy'n gwahanu Twyni Berkshire a Bryniau Chiltern. Ar lan arall yr afon mae pentref Streatley yn Berkshire, ac mae gan y ddau bentrefi cysylltiad agos. Mae Llwybr Tafwys, Stryd Icknield a'r Ridgeway yn croesi Afon Tafwys yma. Mae prif linell Rheilffordd y Great Western yn mynd trwy Goring, sy'n hanner ffordd rhwng Reading a Didcot.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. British Place Names; adalwyd 4 Mehefin 2020
  2. City Population; adalwyd 4 Mehefin 2020
Oxfordshire coat of arms.png Eginyn erthygl sydd uchod am Swydd Rydychen. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.