Elizabeth Phillips Hughes

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Elizabeth Phillips Hughes
Elizabeth Phillips Hughes.jpg
Ffugenw Merch Myrddin Edit this on Wikidata
Ganwyd 12 Gorffennaf 1851 Edit this on Wikidata
Caerfyrddin Edit this on Wikidata
Bu farw 19 Rhagfyr 1925 Edit this on Wikidata (74 oed)
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaeth addysgwr Edit this on Wikidata

Athrawes ac addysgwraig oedd Elizabeth Phillips Hughes a Merch Myrddin yng Ngorsedd y Beirdd (12 Gorffennaf 185119 Rhagfyr 1925). Roedd yn flaenllaw iawn ei chred y dylai addysg Cymru fod yn wahanol i'r addysg yn Lloegr. Hi oedd yr unig ferch ar y pwyllgor a ddrafftiodd Siartr Prifysgol Cymru a derbyniodd Ddoethuriaeth er Anrhydedd gan y Brifysgol am ei chyfraniad.

Ei rhieni[golygu | golygu cod y dudalen]

Cafodd ei geni yng Nghaerfyrddin, yn ferch i feddyg. Roedd ei mam o gyff Iddewig ac yn ferch i Samuel Levi, gemydd a banciwr a ddaeth i Gymru o Frankfurt-ar-Main. Ef oedd sefydlydd Banc Hwlffordd a Banc Milffwrdd.

Coleg[golygu | golygu cod y dudalen]

Elizabeth oedd y ferch gyntaf i gael gradd dosbarth cyntaf yng Ngholeg Newnham, Caergrawnt, yn 1881, dair blynedd ar ôl i ferched gael yr hawl i sefyll arholiadau gradd. Ni fu ganddynt yr hawl i dderbyn eu graddau, fodd bynnag, hyd at 1948. Yr adeg honno roedd llawer o feddygon ac ysgolheigion yn mynnu na fedrai merched ymdopi ag addysg brifysgol, yn gorfforol nag yn feddyliol, ac roedd rhagfarn o'r fath yn gyffredin iawn yn erbyn menywod yr adeg honno.

Bu'n Brifathrawes Neuadd Hughes, Caergrawnt, coleg hyfforddi, rhwng 1884 a 1899. Dychwelodd i Gymru gan weithio'n ddi-baid dros addysg i ferched.[1]

Bu farw yn 74 oed ar 19 Rhagfyr 1925.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Rhywbeth Bob Dydd gan Hafina Clwyd (2008).