Frances Parker

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Frances Parker
Fanny Parker, suffragette, 1914 (cropped).jpg
Ganwyd24 Rhagfyr 1875 Edit this on Wikidata
Otago Edit this on Wikidata
Bu farw19 Ionawr 1924 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Seland Newydd Seland Newydd
Alma mater
Galwedigaethathro, swffragét Edit this on Wikidata
TadHarry Rainy Parker Edit this on Wikidata
MamFrances Emily Jane Kitchener Edit this on Wikidata
Gwobr/auMedal y Swffragét, OBE Edit this on Wikidata

Swffragét a ffeminist rhonc o Seland Newydd oedd Frances Mary "Fanny" Parker (24 Rhagfyr 1875 - 19 Ionawr 1924) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel ymgyrchydd dros bleidlais i ferched ac am iddi dderbyn cyfnodau o garchar am ei chred a'i gweithredu milwriaethus dros hawliau menywod.

Fe'i ganed yn Otago ar 24 Rhagfyr 1875 a bu farw yn Arcachon, ger Bordeaux yn 1924.[1]

Ganwyd Frances Parker yn Little Roderick, Kurow, Otago, Seland Newydd, yn un o bump o blant Frances Emily Jane Kitchener a Harry Rainy Parker. Roedd ei theulu'n byw yn y Waihao Downs Homestead o 1870 i 1895, pan symudon nhw i Little Roderick. Mae Little Roderick yn rhan o Station Peak ar ochr ogleddol Afon Waitaki, Waimate District (nid yn Kurow). Daeth Parker o gefndir cefnog ac roedd yn nith i'r Cadlywydd Arglwydd Kitchener (Field-Marshal Lord Kitchener) a dalodd am ei haddysg yng Ngholeg Newnham, Caergrawnt. Byddai ei hewythr enwog yn ddiweddarach yn datgan fod ymwneud â mudiad hawliau merched yn ei ffieiddio. [2][3][4] [5][6]

Ymladd dros etholfraint[golygu | golygu cod y dudalen]

Ymfudodd Parker i Loegr, lle cychwynodd ymgyrchu dros etholfraint, yn wreiddiol, gydag Undeb Etholfraint Prifysgolion yr Alban, ac yna gydag Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched, dan arweiniad Emmeline Pankhurst a daeth yn drefnydd llawn amser y mudiad hwnnw yng ngorllewin yr Alban yn 1912.[7]

Yn 2016 prynodd Amgueddfa Seland Newydd Te Papa Tongarewa fedal swffragét Parker, sef y 'Medal am Ddewrder' a roddwyd gan Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Menywod. Credir mai hwn yw'r unig fedal swffragét gyda chysylltiad Seland Newydd.[7]

Cymerodd Parker ran mewn gweithredoedd milwriaethus a chafodd ei charcharu sawl gwaith. Treuliodd chwe wythnos am 'rwystr' yn 1908 yn dilyn protest. Yn ddiweddarach, ym mis Mawrth 1912, cafodd ei dedfrydu i bedwar mis yng Ngharchar Holloway ar ôl cymryd rhan mewn cyrch chwalu ffenestri a drefnwyd gan y WSPU. Fel llawer o swffragetiaid aeth ar streic newyn (neu 'ympryd') a gorfodwyd hi i fwyta, gan yr heddlu. Yn ddiweddarach y flwyddyn honno cafodd ei charcharu ddwywaith, unwaith am dorri ffenestri, ac unwaith am dorri i mewn i'r Neuadd Gerdd yn Aberdeen gyda'r bwriad o darfu ar ymddangosiad y Prif Weinidog David Lloyd George. Ar y ddau achlysur cafodd ei rhyddhau ar ôl mynd ar streic newyn am sawl diwrnod.

Erbyn 1914 roedd y mudiad dros etholfraint yn mynd yn fwyfwy treisgar, gyda llawer o adeiladau ledled Prydain yn cael eu bomio a'u llosgi. Yng Ngorffennaf y flwyddyn honno, ceisiodd Parker a chyd-ymgyrchydd, Ethel Moorhead roi Burns Cottage yn Alloway ar dân. Roedd gwyliwr ar ddyletswydd, ac er i Moorhead ddianc, cafodd Parker ei dal, a'i harestio. Tra yn y ddalfa, aeth ar streic newyn a syched. Gan wybod nad oedd llawer o siawns o'i hail-ddal pe bai'n cael ei rhyddhau, gorfoddodd awdurdodau'r carchar iddi gymryd bwyd a diod mewn dull hynod o greulon: drwy ei phen ôl, ga ei chleisio'n ddifrifol. Roedd hi'n ddifrifol wael pan gafodd ei rhyddhau o'r diwedd i gartref nyrsio dan wyliadwraeth, ond llwyddodd i ddianc. Cyn iddi gael ei dal, dechreuodd y Rhyfel Byd Cyntaf, a daeth yr ymgyrchu milwriaethus i ben pan roddwyd amnest i swffragetiaid.

Anrhydeddau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Medal y Swffragét (1912), OBE .


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "Parker, Frances Mary [Fanny] [alias Janet Arthur] (1875–1924), militant suffragette". Oxford Dictionary of National Biography (yn Saesneg). Cyrchwyd 15 Ebrill 2019.
  2. Dyddiad geni: https://doi.org/10.1093/ref:odnb/63882.
  3. Pinney, Robert (1971). Early South Canterbury Runs. Wellington: A.H. & A. W. Reed. tt. 81–87. ISBN 0 589 00616 9.
  4. "Leading suffragette's antics shamed her war hero uncle Kitchener". Mail Online. Cyrchwyd 2016-02-26.
  5. Alma mater: Colin Matthew, ed. (2004) (yn en), Oxford Dictionary of National Biography, Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, Wikidata Q17565097, https://www.oxforddnb.com/
  6. Galwedigaeth: Colin Matthew, ed. (2004) (yn en), Oxford Dictionary of National Biography, Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, Wikidata Q17565097, https://www.oxforddnb.com/ Colin Matthew, ed. (2004) (yn en), Oxford Dictionary of National Biography, Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, Wikidata Q17565097, https://www.oxforddnb.com/
  7. 7.0 7.1 "Suffragette medal on its way to Te Papa". Stuff. Cyrchwyd 2016-02-26.