Otago
Jump to navigation
Jump to search
Rhanbarth o Seland Newydd, ar Ynys y De, yw Otago gyda maint o 32,000 cilomedr sgwâr.
Mae’n cynnwys dinasoedd a threfi Dunedin, Oamaru, Queenstown, Wanaka, Balclutha ac Alexandra, a’r afonydd Clutha a Waitaki.
Lleolir Prifysgol Otago yn Dunedin.
Darganfuwyd aur yn Otago ym 1861. Mae twristiaeth yn bwysig i Otago, yn benodol yn Queenstown a Wanaka, oherwydd yr Alpau Deheuol a’r diwydiant sgïo. Mae ffermio a gwin yn bwysig i’r ardal hefyd.[1] Cynhelir gŵyl werin yn Cardrona[2]
Mae Rheilffordd Dyfnaint Taieri yn cynnig trenau o Dunedin i Pukerangi a Middlemarch ar gyfer twristiaid, ac mae hefyd trenau ar lan y môr o Dunedin.[3]
Oriel[golygu | golygu cod y dudalen]
Enwogion[golygu | golygu cod y dudalen]
- Archibald Baxter (1881-1970), sosialydd a gwrthwynebydd cydwybodol
- James McLeod (1882-1944), gwleidydd a hyfforddwr y Crysau Duon
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]