Emmeline Pankhurst
| Emmeline Pankhurst | |
|---|---|
| Ganwyd | 15 Gorffennaf 1858 Moss Side, Manceinion |
| Bu farw | 14 Mehefin 1928 Hampstead |
| Man preswyl | Manceinion, Llundain, Côte d'Azur |
| Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, y Deyrnas Unedig |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | swffragét, gwleidydd, ymgyrchydd dros hawliau merched, amddiffynnwr hawliau dynol, ysgrifennwr, ffeminist |
| Swydd | gwarcheidwad cyfraith y tlodion, cofrestrydd |
| Adnabyddus am | My Own Story |
| Plaid Wleidyddol | Plaid y Merched, Y Blaid Lafur Annibynnol, y Blaid Geidwadol |
| Tad | Robert Goulden |
| Mam | Sophia Jane Craine |
| Priod | Richard Pankhurst |
| Plant | Sylvia Pankhurst, Christabel Pankhurst, Adela Pankhurst, Henry Francis R. Pankhurst, Henry Francis Pankhurst, Mary Hodgson, Joan Pembridge, Elizabeth Tudor |
| Gwobr/au | Medal y Swffragét |
Emmeline Pankhurst (15 Gorffennaf 1858 – 14 Mehefin 1928) oedd arweinydd symudiad y Swffragét Prydeinig ac ymgyrchydd gwleidyddol. Yn 1999, enwodd y Time hi yn un o bobl pwysicaf y 20g gan ddweud, "she shaped an idea of women for our time; she shook society into a new pattern from which there could be no going back".[1]
Cafodd ei geni ym Moss Side, Manceinion, fel Emmeline Goulden. Cafodd ei haddysg yn yr École Normale de Neuilly ym Mharis, Ffrainc. Priododd y cyfreithiwr Richard Pankhurst ar 18 Rhagfyr 1879. Bu farw Richard ym 1898.
Cysylltiadau Cymreig
[golygu | golygu cod]Ar 11 Gorffennaf 1908, areithiodd Emmeline Pankhurst yn Hwlffordd, Sir Benfro, fel rhan o ymgyrch Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched (WSPU). Nododd y digwyddiad hwn foment arwyddocaol yn y mudiad dros bleidlais i'r blaid yng Nghymru, gan ddangos ei chyfraniad uniongyrchol i wleidyddiaeth ymarferol yng Nghymru.[2] Roedd Pankhurst yn gyfaill mynwesol i Margaret Haig Thomas, Arglwyddes y Rhondda, gan ymweld â hi'n aml yn ei chartref yng Nghasnewydd. Roedd Margaret yn actifydd milwriaethus yn achos y Swffragetiaid yng Nghymru.[3] Ymwelodd Pankhurst hefyd â Llanelli, ar 20 Ionawr 1912 areithiodd yn neuadd yr Eglwys, lle torrodd sawl un ar ei thraws ond daliodd yr awenau'n dynn gan drosglwyddo ei neges yn effeithiol yn ôl y llygaid dystion. Yn yr ysgol Uwchradd, areithiodd am yr ail dro'r diwrnod hwnnw; torrwyd ffenestr, ond unwaith eto, gorffennodd ei haraith.[4]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Warner, Marina (14 June 1999). "Emmeline Pankhurst –Time 100 People of the Century". Time. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-08-26. Cyrchwyd 2018-02-22.
- ↑ senedd.cymru; teitl: Y Mudiad Pleidlais i Fenywod yng Nghymru; cyhoeddwyd 8 Mawrth 2021; adalwyd 15 Gorffennaf 2025.
- ↑ monumentalwelshwomen.com; adalwyd 15 Gorffennaf 2025.
- ↑ llanellich.org.uk; adalwyd 15 Gorffennaf 2025.