Adela Pankhurst

Oddi ar Wicipedia
Adela Pankhurst
Ganwyd19 Mehefin 1885 Edit this on Wikidata
Swydd Gaerhirfryn Edit this on Wikidata
Bu farw23 Mai 1961 Edit this on Wikidata
Sydney Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Alma mater
  • Ysgol Uwchradd Manceinion i Ferched Edit this on Wikidata
Galwedigaethymgyrchydd dros bleidlais i ferched, person cyhoeddus, swffragét Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolY Blaid Lafur Annibynnol, Communist Party of Australia, Australia First Movement Edit this on Wikidata
TadRichard Pankhurst Edit this on Wikidata
MamEmmeline Pankhurst Edit this on Wikidata
PriodTom Walsh Edit this on Wikidata
Gwobr/auMedal y Swffragét Edit this on Wikidata

Ffeminist a swffragét o Loegr ac yna Awstralia oedd Adela Pankhurst (19 Mehefin 1885 - 23 Mai 1961) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel ymgyrchydd dros bleidlais i ferched. Hi hefyd oedd cyd-sefydlydd Plaid Comiwnyddol Awstralia a hefyd Mudiad Cyntaf Awstralia, sef mudiad ffasgiaidd a lansiwyd yn Hydref 1941. Roedd Adela ymhlith y grŵp cyntaf o swffragetiaid i fynd ar streic newyn pan oedd yn y carchar, ac roedd yn cael ei thargedu gan yr heddlu, fel ymgyrchydd proffil uchel. Yn Lloegr, bu'n aelod o'r Blaid Lafur Annibynnol.[1][2][3][4][5]

Ganwyd Adela Constantia Mary Pankhurst Walsh ym Manceinion ar 19 Mehefin 1885 a bu farw yn Awstralia. Fe'i magwyd, o ddydd i ddydd, ar aelwyd a oedd yn hoff o drafod materion gwleidyddol. Bu ei thad yn ymgeisydd seneddol sosialaidd ac roedd ei mam Emmeline, a'i chwiorydd Sylvia a Christabel yn arweinyddion o'r mudiad Prydeinig dros etholfraint. Mynychodd yr ysgol uwchradd leol ym Manceinion ac yna bu'n fyfyriwr yng Ngholeg Amaethyddol Studley yn Swydd Warwick.[6]

Lloegr[golygu | golygu cod]

Yn ei harddegau, ymunodd Adela gydag mudiad eitha milwriaethus, sef yr Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched (Women's Social and Political Union) a sefydlwyd gan ei mam a'i chwiorydd. Yn Nhachwedd 1909 ymunodd â phrotest lle torrwyd ar draws sgwrs gan Winston Churchill yn ei etholaeth yn Dundee. Cafodd ei harestio ynghyd â Helen Archdale a Maud Joachim am slapio plismon a oedd yn ceisio ei throi allan o'r adeilad.

Christabel Pankurst oedd ffefryn ei mam ac edrychai'r ddwy ohonynt ar yr Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched fel eu sefydliad personol nhw eu hunain. Cafwyd ffrae enfawr rhyngddynt a llawer o'u gwirfoddolwyr a'u cefnogwyr blaenllaw (gan gynnwys Sylvia ac Adela). Roedd y ddwy ohonynt yn credu mewn sosialaeth tra bod Emmeline a Chistabel yn gwthio am y bleidlais i fenywod dosbarth canol. Taflwyd Sylvia allan o'r Undeb a sefydlodd ei grŵp ei hun yn Nwyrain Llundain. Rhoddwyd tocyn unffordd £20 i Adela - i Awstralia - a llythyr yn ei chyflwyno i Vida Goldstein.[7]

Awstralia[golygu | golygu cod]

Ymfudodd Adela i Awstralia ym 1914. Ysgrifennodd lyfr o'r enw Put Up the Sword, ysgrifennodd nifer o bamffledi gwrth-ryfel ac anerchodd gyfarfodydd cyhoeddus yn siarad yn erbyn rhyfel a chonscripsiwn (gorfodaeth filwrol).[8]

Yn 1915, gyda Cecilia John o Fyddin Heddwch y Merched, teithiodd Awstralia i sefydlu canghennau o'r mudiad. Y flwyddyn wedyn, teithiodd drwy Seland Newydd gan annerch torfeydd mawr, ac unwaith eto teithiodd New South Wales a Queensland yn dadlau dros bwysigrwydd y gwrthwynebiad ffeministaidd i filitariaeth. Ym mis Awst 1917, yn ystod gorymdaith yn erbyn prisiau bwyd cynyddol, arestiwyd Pankhurst, ym Melbourne, gorymdaith a oedd yn rhan o gyfres o brotestiadau eitha treisgar. Roedd llawer o'r protestiadau ymfflamychol hyn, yn eironig, yn cael eu sbarduno a'u harwain gan fenywod dros heddwch.[9]

Ym mis Medi 1917, priododd Tom Walsh o Undeb Ffederal Morwyr Awstralasia (the Federated Seamen's Union of Australasia), a chawsant un mab a phum merch. Ym 1920, cyd-sefydlodd Blaid Gomiwnyddol Awstralia, ond cafodd ei diarddel yn ddiweddarach.[10]

Aelodaeth[golygu | golygu cod]

Bu'n aelod o Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched am rai blynyddoedd.

Anrhydeddau[golygu | golygu cod]

  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Medal y Swffragét .


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Rhyw: Darryl Roger Lundy (yn en), The Peerage, Wikidata Q21401824, http://thepeerage.com/
  2. Dyddiad geni: "Adela Pankhurst, verh. Walsh". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  3. Dyddiad marw: "Adela Pankhurst, verh. Walsh". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  4. Tad: Darryl Roger Lundy (yn en), The Peerage, Wikidata Q21401824, http://thepeerage.com/
  5. Mam: Darryl Roger Lundy (yn en), The Peerage, Wikidata Q21401824, http://thepeerage.com/
  6. Bartley, t. 16; Liddington and Norris, t. 74.
  7. Sparrow, Jeff (24 Rhagfyr 2015). "'Wayward suffragette' Adela Pankhurst and her remarkable Australian Life". The Guardian. Cyrchwyd 9 Mawrth 2016.
  8. Hogan, Susan. Australian Dictionary of Biography. Canberra: National Centre of Biography, Australian National University.
  9. http://www.outskirts.arts.uwa.edu.au/volumes/volume-39
  10. Smart, Judith (May 1986). "Feminists, food and the cost of living demonstrations in Melbourne August-September 1917". Labour History (50): 113–131. doi:10.2307/27508786.