Christabel Pankhurst
Christabel Pankhurst | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 22 Medi 1880, 1880 ![]() Manceinion ![]() |
Bu farw | 13 Chwefror 1958, 1958 ![]() Santa Monica ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | ymgyrchydd dros bleidlais i ferched, ymgyrchydd dros hawliau merched, pensaer, golygydd, ymgyrchydd, swffragét ![]() |
Tad | Richard Pankhurst ![]() |
Mam | Emmeline Pankhurst ![]() |
Gwobr/au | Bonesig Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig ![]() |
Ffeminist a swffragét o Loegr oedd Christabel Pankhurst (22 Medi 1880 - 13 Chwefror 1958) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel ymgyrchydd dros bleidlais i ferched y dosbarth canol ac uwch; roedd yn ferch i Emmeline Pankhurst. Roedd hefyd yn gyd-sefydlydd Undeb Sosialaidd a Gwleidyddol y Merched sef y Women's Social and Political Union (WSPU), a daliodd ati i ddanfon gorchymynion ac anogaeth i'r Undeb, hyd yn oed rhwng 1912 a 1913 pan oedd yn alltud yn Ffrainc. Yn wahanol i'w chwaer iau Adela Pankhurst, cefnogai'r rhyfel yn erbyn yr Almaen. Wedi'r rhyfel, aeth i Unol Daleithiau America, lle ymgyrchodd fel efengylydd yn y mudiad yr Ailatgyfodiad.[1][2][3][4][5][6]
Magwraeth[golygu | golygu cod y dudalen]
Cafodd ei geni ym Manceinion, Lloegr, ar 22 Medi 1880, bu farw yn Los Angeles ac fe'i claddwyd ym Mynwent Goffa Woodlawn. Fe'i magwyd, o ddydd i ddydd, ar aelwyd a oedd yn hoff o drafod materion gwleidyddol. Bu ei thad, a oedd yn fargyfreithiwr, yn ymgeisydd seneddol sosialaidd ac roedd ei mam Emmeline, a'i chwiorydd Sylvia ac Adela yn arweinyddion y mudiad Prydeinig dros etholfraint. Mynychodd yr ysgol uwchradd leol ym Manceinion ac yna derbyniodd radd LL.B. yn y gyfraith, ond ni chaniatawyd iddi weithio fel cyfreithiwr gan ei bod yn fenyw. Yn hytrach, gweithiai gyda'i mam yn swyddfa cofrestru genedigaethau, priodasau a marwolaethau Manceinion. [7][8][9][10]
Am gyfnod symudodd i Genefa i fyw gyda perthynas i'r teulu, ond dychwelodd i Loegr pan ymosododd yr Almaen ar Ffrainc. Gartref, cyorthwyodd ei mam yn ei hymgyrch dros hawliau cyfartal i ferched ac i fagu ei chwiorydd iau pan bu farw ei thad yn 1898.[11][12]
Yr ymgyrchydd[golygu | golygu cod y dudalen]
Ym 1905, torrodd Christabel Pankhurst ar draws cyfarfod o'r Blaid Ryddfrydol trwy weiddi a galw am hawliau pleidleisio i fenywod (y dosbarth canol ac uwch). Cafodd ei harestio ac ynghyd â'i chyd-swffragét Annie Kenney fe'i carcharwyd. Enillodd eu hachos lawer o sylw yn y cyfryngau ac ymchwyddodd rhengoedd y UGCG o ganlyniad i'r achos llys.
Symudodd i Lundain i weithio fel ysgrifennydd y WSPU, lle galwyd hi yn "Queen of the Mob". Danfonwyd hi eilwaith yn 1907 yn llys Parliament Square ac eto yn 1909 yn llys Bow Street. Dihangodd i Baris, lle bu'n byw rhwng 1913 a 1914, er mwyn osgoi carchar dan amodau Prisoner's (Temporary Discharge for Ill-Health) Act. Pan ddychwelodd o Ffrainc, fe'i carcharwyd ac aeth ar streic newyn; bu yn y carchar am 30 diwrnod, er iddi gael ei dedfrydu i dair mlynedd.
Ysgrifennodd lyfr am afiechydon rhyw, o'r enw The Great Scourge and How to End It.[13]
Aelodaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
Bu'n aelod o Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched am rai blynyddoedd.
Anrhydeddau[golygu | golygu cod y dudalen]
- Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Bonesig Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (1936)[14] .
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb122962688; ffeil awdurdod y BnF; dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. https://www.wechanged.ugent.be/wechanged-database/.
- ↑ Rhyw: (yn mul) Ffeil Awdurdodi Rhyngwladol, Dublin, Ohio: OCLC, OCLC 609410106, dynodwr VIAF 51753932, Wikidata Q54919, https://viaf.org/, adalwyd 4 Tachwedd 2018 http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb122962688; ffeil awdurdod y BnF; dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. https://www.wechanged.ugent.be/wechanged-database/. http://www.enciclopediadelledonne.it/biografie/cristabel-pankhurnst; dyddiad cyrchiad: 12 Ebrill 2019.
- ↑ Dyddiad geni: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb122962688; ffeil awdurdod y BnF; dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. https://www.wechanged.ugent.be/wechanged-database/. http://www.enciclopediadelledonne.it/biografie/cristabel-pankhurnst; dyddiad cyrchiad: 12 Ebrill 2019.
- ↑ Dyddiad marw: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb122962688; ffeil awdurdod y BnF; dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. The Peerage; dyddiad cyrchiad: 9 Hydref 2017; enwyd fel: Christabel Harriette Pankhurst; dynodwr The Peerage (person): p64293.htm#i642925. https://www.wechanged.ugent.be/wechanged-database/. http://www.enciclopediadelledonne.it/biografie/cristabel-pankhurnst; dyddiad cyrchiad: 12 Ebrill 2019.
- ↑ Tad: Colin Matthew, ed. (2004) (yn en), Oxford Dictionary of National Biography, Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, dynodwr ODNB 35375, Wikidata Q17565097, https://www.oxforddnb.com/
- ↑ Mam: Colin Matthew, ed. (2004) (yn en), Oxford Dictionary of National Biography, Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, dynodwr ODNB 35375, Wikidata Q17565097, https://www.oxforddnb.com/
- ↑ Alma mater: Colin Matthew, ed. (2004) (yn en), Oxford Dictionary of National Biography, Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, Wikidata Q17565097, https://www.oxforddnb.com/ Colin Matthew, ed. (2004) (yn en), Oxford Dictionary of National Biography, Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, Wikidata Q17565097, https://www.oxforddnb.com/
- ↑ Galwedigaeth: https://spartacus-educational.com/WpankhurstC.htm. https://www.wechanged.ugent.be/wechanged-database/. Colin Matthew, ed. (2004) (yn en), Oxford Dictionary of National Biography, Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, dynodwr ODNB 35375, Wikidata Q17565097, https://www.oxforddnb.com/
- ↑ Aelodaeth: http://spartacus-educational.com/Wwspu.htm.
- ↑ Anrhydeddau: Colin Matthew, ed. (2004) (yn en), Oxford Dictionary of National Biography, Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, dynodwr ODNB 35375, Wikidata Q17565097, https://www.oxforddnb.com/
- ↑ Hillberg, Isabelle. "Pankhurst, Christabel Hariette (1880–1958)". Detroit:Gale. Cyrchwyd 6 Hydref 2011.
- ↑ "Christabel Pankhurst". Gale. Cyrchwyd 17 Hydref 2011.
- ↑ Pankhurst C, 1913. The Great Scourge and How to End It Archifwyd 3 March 2001[Date mismatch] yn y Peiriant Wayback.
- ↑ Colin Matthew, ed. (2004) (yn en), Oxford Dictionary of National Biography, Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, dynodwr ODNB 35375, Wikidata Q17565097, https://www.oxforddnb.com/