Santa Monica, Califfornia

Oddi ar Wicipedia
Santa Monica
ArwyddairPopulus felix in urbe felice Edit this on Wikidata
Mathdinas yn yr Unol Daleithiau, charter city Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlMonica o Hippo Edit this on Wikidata
Poblogaeth93,076 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 3 Awst 1769 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethGleam Davis Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC−08:00, UTC−07:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Hamm, Fujinomiya, Mazatlán, Sirolo, Sant'Elia Fiumerapido, Hechuan District Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirLos Angeles County Edit this on Wikidata
GwladBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Arwynebedd21.798253 km², 21.797246 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr32 ±1 metr Edit this on Wikidata
GerllawY Cefnfor Tawel Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaPacific Palisades, Brentwood, Venice, Los Angeles Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau34.0219°N 118.4814°W Edit this on Wikidata
Cod post90401–90411, 90401, 90404, 90405, 90408 Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethGleam Davis Edit this on Wikidata
Map

Dinas ar lan y môr yng Los Angeles County, yn nhalaith Califfornia, yw Santa Monica (Sbaeneg: Santa Mónica; Sbaeneg ar gyfer y Santes Monica). Mae wedi'i leoli ar Fae Santa Monica, ac mae dinas Los Angeles yn ei ffinio ar dair ochr - Palisadau Môr Tawel i'r gogledd, Brentwood yn y gogledd-ddwyrain, Gorllewin Los Angeles ar y dwyrain, Mar Vista ar y de-ddwyrain, a Fenis ar y de. Poblogaeth Cyfrifiad yr UD 2010 oedd 89,736. Yn rhannol oherwydd ei hinsawdd ddymunol, daeth Santa Monica yn dref wyliau enwog erbyn dechrau'r 20fed ganrif. Ers diwedd yr 1980au mae'r ddinas gweld twf trwy adfywio canol y ddinas, twf swyddi sylweddol a mwy o dwristiaeth. Mae Pier Santa Monica a Pacific Park yn gyrchfannau poblogaidd.[1]

Hanes[golygu | golygu cod]

Bu pobl Tongva yn byw yn Santa Monica ers amser maith. Yr enw ar gyfer Santa Monica yn yr iaith Tongva oedd Kecheek.[2] Y grŵp anfrodorol cyntaf i ddod i'r ardal oedd grŵp yr archwiliwr Gaspar de Portolà, a wersyllodd ger y groesffordd bersennol Barrington Avenure ac Ohio Avenue ar 3 Awst 1769. Cafodd ei enwi ar ôl y santes Gristnogol Monica, ac mae dau gyfrif gwahanol o sut cafodd y ddinas ei enw. Mae un stori yn dweud y caiff ei enwi ar ôl dydd gŵyl Santes Monica (mam Saint Awstin), ond ei dydd gŵyl hi yw 4 Mai. Mae stori arall yn dweud y cafodd ei enwi gan Juan Crespí gan fod bâr o ffynhonnau, y Ffynhonnau Kuruvungna (Serra Springs), yn atgoffa rhywun o ddagrau Santes Monica y llefodd dros annuwioldeb cynnar ei mab.[3]

Yn Los Angeles, ymladdwyd sawl brwydr gan y bobl California. Yn dilyn Rhyfel Mecsico-America, llofnododd Mecsico'r Cytundeb Guadalupe Hidalgo, a roddodd rai hawliau i'r Fecsicaniaid a phobl California oedd yn byw yn y dalaith. Dechreuodd sofraniaeth llywodraeth yr UD yng Nghaliffornia ar 2 Chwefror 1848.

Yn yr 1870au, gwnaeth y Rheilffordd Los Angeles and Independence cysylltu Santa Monica â Los Angeles, a glanfa allan i'r bae. Neuadd y dref gyntaf oedd adeilad brics syml a adeiladwyd ym 1873, yna daeth yn neuadd gwrw, ac mae nawr yn rhan o Hostel Santa Monica. Hwn yw strwythur hynaf Santa Monica. Erbyn 1885 gwesty cyntaf y dref oedd Gwesty Santa Monica.[4]

Daeth pierau pleser yn hynod boblogaidd yn negawdau cyntaf yr 20fed ganrif, a daeth Rheilffordd Pacific Electric â phobl i draethau'r ddinas o bob rhan o Ardal Los Angeles Mwyaf.

Golygfa allanol o Adeilad y Banc ar gornel Third Street a Broadway, Santa Monica, ca. 1900

Tua dechrau'r 20fed ganrif, roedd poblogaeth gynyddol o Americanwyr Asiaidd yn byw o fewn ac o amgylch Santa Monica a Fenis. Roedd yna bentref pysgota Japaneaidd ger y Longfa Hir tra bod niferoedd bach o bobl Tsieineaidd yn byw neu'n gweithio yn Santa Monica a Fenis. Roedd y ddau leiafrif ethnig yn aml yn cael eu hystyried yn wahanol gan Americanwyr Gwyn: roeddent yn aml yn ddymunol tuag at y Japaneaid ond yn anghyfeillgar tuag at y Tsieineaid.[5] Roedd pysgotwyr y pentref Japaneaidd yn rhan bwysig economaidd o gymuned Bae Santa Monica.[6]

Ocean Park Bathhouse

Ym 1922 adeiladodd Donald Wills Douglas, Sr. ffatri yn Clover Field (nawr Maes Awyr Santa Monica) ar gyfer Cwmni Awyrennau Douglas.[7] Ym 1924, aeth pedair awyren a adeiladwyd gan Douglas o Clover Field i geisio bod y cyntaf i gylchfordwyo'r byd o'r awyr. Dychwelodd dwy awyren ar ôl teithio 27,553 mile (44,342 km) mewn 175 diwrnod, ac roedd dorf o 200,00 wedi dod i'w chyfarch pan ddychwelon nhw ar 23 Medi 1924. Roedd Cwmni Douglas yn cynnal cyfleusterau'r ddinas hyd at y 1960au.

Effeithiodd y Dirwasgiad Mawr ar Santa Monica yn wael. Mae un adroddiad yn dweud taw ond 1,000 o bobl oedd wedi'u cyflogi ledled y ddinas 1933. Roedd gwestai a pherchnogion adeiladau swyddfa yn methu. Helpodd prosiectau gwaith ffederal i adeiladu sawl adeilad, megis Neuadd y Ddinas, y brif Swyddfa Bost a Neuadd Barnum (awditoriwm Ysgol Uwchradd Santa Monica).

Tyfodd busnes Douglas yn fawr wrth i'r Ail Ryfel Byd dechrau, yn cyflogi cymaint â 44,000 o bobl ym 1943. Er mwyn i'w amddiffyn rhag ymosodiad awyr, paratôdd dylunwyr set o Stiwdios Warner Brothers guddliw cymhleth a guddiodd y ffatri a'r maes awyr.[8][9] Dechreuodd Corfforaeth RAND fel prosiect gan Gwmni Douglas ym 1945, ac aeth yn annibynnol ar 14 Mai 1948, a phrynon nhw gampws 15 erw (61,000m²) rhwng y Ganolfan Ddinesig a mynedfa'r pier.

Credir i bêl-foli traeth gael ei datblygu gan Duke Kahanamoku yn Santa Monica yn ystod y 1920au.

Atyniadau[golygu | golygu cod]

Mynedfa Pier Santa Monica
Diwrnod prysur ar Bromenâd Third Street yn Santa Monica; y pen deheuol yw'r fynedfa i Santa Monica Place gan Frank Gehry.

Mae Hippodrome Looff Santa Monica (carwsél) yn Dirnod Hanesyddol Cenedlaethol. Mae'n eistedd ar Bier Santa Monica, a adeiladwyd ym 1909. Ar un adeg Dawnsfa La Monica ar y pier oedd ystafell ddawns fwyaf yn yr UD ac yn nodweddiadol ar gyfer nifer o ddarllediadau cenedlaethol Nos Galan. Roedd Awditoriwm Dinesig Santa Monica yn lleoliad cerdd bwysig am sawl degawd ac yn cynnal Gwobrau'r Academi yn y 1960au. Mae Siop Gitâr McCabe yn le perfformio acwstig blaenllaw yn ogystal â siop. Mae Gorsaf Bergamot yn oriel gelf sy'n eiddo i'r ddinas ac mae'n cynnwys Amgueddfa Gelf Santa Monica. Mae'r ddinas hefyd yn gartref i Amgueddfa Treftadaeth California ac amgueddfa deganau a thŷ dol Angels Attic. Cerddorfa breswyl Neuadd Barnum yw'r New West Symphony - maent hefyd yn gerddorfa breswyl yng Nghanolfan Celfyddydau Perfformio Oxnard a'r Thousand Oaks Civic Arts Plaza.

Mae gan Santa Monica dair prif ardal siopa: Montana Avenue ar yr ochr ogleddol, Ardal Ganol y Ddinas, a Main Street yn y pen deheuol. Mae gan bob un ei naws a'i bersonoliaeth unigryw ei hun. Yn Montana Avenue mae siopau bwtîc moethus, bwytai a swyddfeydd bach sydd fel rheol yn cynnwys siopa mwy drud. Mae ardal Main Street yn cynnig cymysgedd eclectig o ddillad, bwytai a siopau arbenigol arall.

Aderyn cyffredin o'r enw gwylan California a geir ar y traeth

Ardal Ganol y Ddinas yw cartref Promenâd Third Street, ardal siopa awyr agored fawr i gerddwyr yn unig sy'n ymestyn am dri bloc rhwng Wilshire Blvd. a Broadway. Mae Third Street ar gau i gerbydau ar gyfer y tri bloc hynny er mwyn caniatáu i bobl fynd am dro, ymgynnull, siopa a mwynhau perfformwyr stryd. Mae Santa Monica Place, sy'n cynnwys Bloomingdale's a Nordstrom mewn amgylchedd awyr agored tair lefel, ar ben deheuol y Promenâd. Ar ôl cyfnod o ailddatblygu, ail-agorodd y ganolfan yn ystod Hydref 2010 fel canolfan siopa, adloniant a bwyta modern gyda mwy o le yn yr awyr agored.

Mae Santa Monica yn cynnal Gŵyl Ffilm flynyddol Santa Monica.

Theatr ffilm hynaf y ddinas yw'r Majestic. Fe'i hagorwyd ym 1912 ac a elwir hefyd y Mayfair Theatre. Mae wedi bod ar gau ers y daeargryn Northridge ym 1994. Adeiladwyd yr Aero Theatre a Criterion Theatre yn y 1930au ac maent yn dal i ddangos ffilmiau. Mae Promenâd Santa Monica yn unig yn gartref i fwy na dwsin o sgriniau ffilm.

Mae Parc Palisades yn ymestyn allan ar hyd y clogwynau sy'n edrych dros y Môr Tawel ac mae'n ardal gerdded boblogaidd er mwyn weld y cefnfor. Mae'n cynnwys polyn totem, camera obscura, gwaith celf, meinciau, ardaloedd picnic, ardaloedd chwarae pétanque, a thai bach. Mae Parc Tongva yn gorchuddio 6 erw rhwng Ocean Avenue a Main Street, ychydig i'r de o Colorado Avenue. Mae'r parc yn cynnwys golygfeydd, amffitheatr, maes chwarae, gardd, ffynhonnau, mannau picnic a thai bach.

Grisiau Santa Monica y set o risiau hir, serth sy'n arwain o'r gogledd o San Vicente i lawr i Santa Monica Canyon. Mae'n lle poblogaidd ar gyfer ymarfer corff awyr agored naturiol. Mae rhai o drigolion yr ardal wedi cwyno bod y grisiau wedi dod yn rhy boblogaidd, ac yn denu gormod o ymarferwyr corff i gymdogaeth gyfoethog gyda nifer o eiddo gwerth miliynau o ddoleri.[10]

Priffordd Arfordir y Môr Tawel yn rhedeg trwy Santa Monica
Santa Monica
Traeth a phier Santa Monica fel y gwelir o ddiwedd y pier. Nodwyd taw'r clogwyn yw'r pwynt uchaf ar yr ochr ogleddol ac mae canol y dref i chwith y llun.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Begley, Sarah (December 10, 2015). "The Most Popular Places to Check In on Facebook in 2015". Time. Cyrchwyd January 27, 2016.
  2. Munro, Pamela, et al. Yaara' Shiraaw'ax 'Eyooshiraaw'a. Now You're Speaking Our Language: Gabrielino/Tongva/Fernandeño. Lulu.com: 2008.
  3. Paula A. Scott, Santa Monica: a history on the edge. Making of America series (Arcadia Publishing, 2004), 17–18.
  4. "Water and Power Associates". waterandpower.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-12-08. Cyrchwyd 2020-01-10.
  5. Fogelson, Robert M. (1993). The fragmented metropolis: Los Angeles, 1850–1930. Berkeley: University of California Press. t. 200. ISBN 978-0-520-08230-4.
  6. Mark McIntire, Minorities and Racism, Free Venice Beachhead #126, June 1980.
  7. Parker, Dana T. Building Victory: Aircraft Manufacturing in the Los Angeles Area in World War II, pp. 13–24, Cypress, CA, 2013. ISBN 978-0-9897906-0-4.
  8. Herman, Arthur. Freedom's Forge: How American Business Produced Victory in World War II, pp. 202–3, Random House, New York, NY, 2012. ISBN 978-1-4000-6964-4.
  9. Parker, Dana T. Building Victory: Aircraft Manufacturing in the Los Angeles Area in World War II, pp. 7–48., Cypress, CA, 2013. ISBN 978-0-9897906-0-4.
  10. Ben Tracy (February 18, 2009). "Santa Monica's Disputed Steps". CBS News TV report. Cyrchwyd February 24, 2010.