Swyddfa bost
Adeilad lle derbynir eitemau fel llythyrau a pharseli i'w postio yw swyddfa bost neu llythyrdy. Yr enw swyddogol arnynt yng ngwledydd Prydain yw Swyddfa'r Post, lle mae 'Post' yn sefyll am y Post Brenhinol. Gwerthir stampiau yno a chynigir ystod o wasanaethau eraill fel arfer yn ogystal.
Gwledydd Prydain[golygu | golygu cod y dudalen]
Erbyn hyn mae swyddfeydd post yng ngwledydd Prydain yn gwerthu sawl peth arall yn ogystal â stampiau. Gellir talu am sawl gwasanaeth swyddogol, e.e. trwydded teledu, a chael ffurflenni swyddogol o bob math. Mae pensiynwyr yn gallu hel eu pensiynau yno hefyd. Yn aml gwerthir cardiau post, deunydd sgwennu, amlenni a chardiau penblwydd ayyb. Mae nifer o swyddfeydd post llai - yr is-swyddfeydd post - yn siopau hefyd lle gwerthir ystod o nwyddau.
Yn ddiweddar mae dyfodol y swyddfa bost leol dan fygythiad wrth i'r Post Brenhinol gwtogi'n sylweddol ar eu niferoedd. Mae hyn yn bwnc llosg yng Nghymru am mai'r swyddfa bost yw'r unig siop a chanolfan i gymunedau gwledig bychain erbyn hyn ac mai ei cholli yn cael ei weld fel dirywiad sylweddol ym mywyd y pentref, tebyg i gau ysgol leol.