Post Brenhinol
| Enghraifft o: | busnes, gwasanaeth post, menter, cwmni preifat |
|---|---|
| Rhan o | FTSE 100 |
| Dechrau/Sefydlu | 2001 |
| Perchennog | Schroders, Royal Mail Share Incentive Plan, Vesa Equity Investment |
| Prif weithredwr | Rico Back |
| Sylfaenydd | Harri VIII |
| Isgwmni/au | Parcelforce, General Logistics Systems, Ecourier |
| Rhiant sefydliad | International Distribution Services |
| Ffurf gyfreithiol | cwmni preifat |
| Pencadlys | Llundain |
| Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
| Gwefan | https://www.royalmail.com/ |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/01z3w3 |
| Quora | Royal-mail |
Y Post Brenhinol (Gaeleg yr Alban: am Post Rìoghail; Gwyddeleg: an Post Ríoga; Saesneg: The Royal Mail) yw'r gwasanaeth post gwladol ar gyfer y Deyrnas Unedig a sefydlwyd yn 1516. Ar un adeg roedd gan y Post Brenhinol fonopoli yn y DU, ond bellach mae'n gorfod cystadlu mewn rhai meysydd â sawl gwasanaeth post arall. Hyd at yn ddiweddar y Post Brenhinol oedd berchen busnesau'r swyddfeydd post, ond cawsant eu dad-genedlaetholi. Bu'r Swyddfa Bost yn symbol o'r sefydliad ('swyddogol') Seisnig yng Nghymru yn ystod y 1960au a'r 70au gan aelodau o Gymdeithas yr Iaith, a welwyd yn meddiannu'r swyddfeydd lleol mewn sawl tref yng Nghymru er mwyn hawlio dogfennau a ffurflenni Cymraeg.

Un o is-grwpiau'r cwmni yw Royal Mail Group Limited, sy'n gyfrifol am ddosbarthu llythyrau, dan yr enw 'Post Brenhinol'. Postir y llythyr mewn 'blwch postio' neu fe ddaw'r postmon o amgylch i'w casglu gan fusneseuon. Yna daw'r postman i wagio'r blychau post yn ddyddiol, ar wahân i'r Sul a cheisiant ddosbarthu'r llythyrau y diwrnod wedyn, ond nid yw hyn yn cael ei warantu.[1]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "1st Class mail". Royal Mail. 2013. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-12-25. Cyrchwyd 15 October 2013.