John Morgan (esgob)
John Morgan | |
---|---|
Bu farw | 29 Mai 1504 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | offeiriad Catholig, esgob Catholig |
Swydd | Roman Catholic bishop of Saint David’s |
- Am bobl eraill o'r un enw, gweler John Morgan.
Roedd John Morgan (bu farw 1504) yn Esgob Tyddewi. Weithiau gelwir ef yn John Yong neu Young, i'w wahaniaethu oddi wrth ei frawd, oedd hefyd yn dwyn yr enw 'John Morgan'.
Mae ansicrwydd ynghylch ei dras; efallai ei fod yn fab i Morgan ap Siencyn ac yn frawd i'r cyfreithiwr Trahaearn Morgan,[1] ac yn un deulu dylanwadol Morganiaid Machen a Thredegar, Sir Fynwy.
Bu ym Mhrifysgol Rhydychen, lle graddiodd fel doethur yn y gyfraith. Roedd yn gefnogwr i Harri Tudur, ac efallai iddo fod mewn alltudiaeth gydag ef cyn 1485. Roedd yn sicr yn un o gynhorwyr Syr Rhys ap Thomas ac awgrymir ym mywgraffiad Syr Rhys mai John Morgan a'i frawd Trahaiarn Morgan o Gydweli, twrnai cyffredinol Rhisiart III oedd yn gyfrifol am berswadio Syr Rhys i gefnogi cais Harri Tudur am yr orsedd.
Wedi i Harri ddod yn frenin ar ôl Brwydr Bosworth, dyrchafwyd John Morgan i swyddi eglwysig. Derbyniodd nifer o fywiolaethau yn Lloegr, a gwnaed ef yn feistr yn y Siawnsri; cafodd ddeoniaethau Windsor a Leicester. Yn 1499 daeth yn Archddiacon Caerfyrddin, ac yn 1496 yn Esgob Tyddewi. Rhoddodd y gorau i'w swyddi eraill i gyd pan benodwyd ef yn esgob. Bu farw ddiwedd Ebrill neu Fai 1504, a chladdwyd ef yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Y Bywgraffiadur Arlein; Llyfrgell genedlaethol Cymru;] adalwyd Ionawr 2015