Castell Gwalchmai

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Rhan o'r safle Normanaidd yng Nghastell Gwalchmai.

Pentref a chymuned yn ne Sir Benfro yw Castell Gwalchmai (Saesneg: Walwyn's Castle). Saif i'r gogledd-orllewin o dref Aberdaugleddau. Ar un adeg roedd yn farwniaeth Normanaidd yn ddibynnol ar arglwyddiaeth Penfro. Yn yr Oesoedd Canol roedd yn un o ganolfannau lleyg pwysicaf cantref Rhos.

Heblaw Castell Gwalchmai ei hun, mae'r gymuned yn cynnwys pentrefi Hasguard a Roberston West. Yn 2001 roedd poblogaeth y gymuned yn 304.

Cred rhai ysgolheigion mai Gwalchmai ap Gwyar yw'r Gwalchmai sy'n cael ei goffhau yn yr enw.

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod y dudalen]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3][4]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Castell Gwalchmai (pob oed) (361)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Castell Gwalchmai) (54)
  
15.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Castell Gwalchmai) (248)
  
68.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Castell Gwalchmai) (32)
  
26.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  2. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  3. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013