Gwalchmai ap Gwyar

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Gawain a'r Marchog Gwyrdd.

Cymeriad a gysylltir a'r chwedlau am y brenin Arthur yw Gwalchmai ap Gwyar, hefyd Gwalchmei (Lladin: Gualguainus, Ffrangeg: Gauvain, Saesneg: Gawain).

Ymddengys Gwalchmai fel un o ŵyr Arthur yn chwedl Culhwch ac Olwen, lle disgrifir ef fel nai i Arthur. Mae'n un o'r gwŷr a ddewisir gan Arthur i fynd gyda Culhwch i chwilio am Olwen. Yn Llyfr Du Caerfyrddin enwir ei farch fel Ceingaled, a dywedir fod ei fedd ym Mheryddon. Dywed William o Malmesbury yn ei De Rebus Gestis Anglorum iddo deyrnasu mewn rhan o Brydain a eilw yn Walweitha, a dywed fod ei fedd yn Rhos (yn Sir Benfro yn awr). Ceir yr enw Castell Gwalchmai yn y cantref hwnnw.

Mae'n gymeriad pwysig yn Historia Regum Britanniae Sieffre o Fynwy, lle mae'n un o farchogion gorau Arthur ac yn etifedd posibl i'r deyrnas nes iddo gael ei ladd gan ŵyr Medrawd. Mae'r testun anghyflawn diweddarach Genedigaeth Arthur yn gwneud Gwyar, mam Gwalchmai a chwaer Arthur, yn briod i Emyr Llydaw ac felly'n fam i Hywel ab Emyr Llydaw.

Ymddengys Gauvain yng ngwaith Chrétien de Troyes, lle mae'n batrwm o sifalri. Ef yw arwr y chwedl Saesneg o'r 14eg ganrif, Sir Gawain and the Green Knight.