Solfach

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Solfach
Solva Harbour 2.JPG
Math Pentref, Cymuned Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Sir Benfro Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 51.8744°N 5.1889°W Edit this on Wikidata
Cod SYG W04000474 Edit this on Wikidata
Cod OS SM802243 Edit this on Wikidata
Cod post SA62 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/au Paul Davies (Ceidwadwyr)
AS/au Stephen Crabb (Ceidwadwr)

Pentref glan-môr a chymuned ar Fae Sain Ffraid, yn Sir Benfro, yw Solfach (hefyd Solfa, Saesneg: Solva). Fe'i lleolir ar gilfach môr rhwng Tyddewi a St. Ann's Head, ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro ar aber Afon Solfach. Mae ganddo harbwr ardderchog a bu'n ganolfan masnach arfordirol am ganrifoedd.

Heddiw mae'r pentref yn ganolfan hwylio a gwyliau glan-môr poblogaidd. Mae Llwybr Arfordir Penfro yn rhedeg trwy'r pentref.

Cynrychiolir yr ardal hon yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Paul Davies (Ceidwadwyr) a'r Aelod Seneddol yw Stephen Crabb (Ceidwadwr).[1][2]

Prif stryd Solfach.
Golygfa ar harbwr Solfach.
Solfach02LB.jpg

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae hanes Solfach fel porthladd yn ymestyn yn ôl i'r 14g o leiaf. Cyfeirir ato gan yr hynafiaethydd George Owen yn 1603. Erbyn 1811 roedd yna 36 o longau'n defnyddio'r porthladd gyda naw warws ar eu cyfer yn y pentref. Roedd nwyddau fel ŷd, barlys a phren yn cael eu hallforio i Fryste a deuai nwyddau cyffredinol yn ogystal â glo a chalch i mewn o Fryste, porthladdoedd De Cymru ac o mor bell i ffwrdd ag Iwerddon. Ond fel yn achos nifer o borthladdoedd bychain tebyg dirywiodd ei fasnach gyda dyfodiad y rheilffyrdd ganol y 19g.

Veir olion caer oes haearn ar ben Y Gribin, penrhyn ar ochr ddwyreiniol yr harbwr.[3]

Cofnodir fod pobl wedi ymfudo i'r Unol Daleithiau o Solfach. Yn 1848 y pris am y fordaith oedd £3 i oedolion a 30 swllt i blant. Roedd y siwrnai'n cymryd rhwng 7 a 14 wythnos, gan ddibynnu ar y gwyntoedd a'r tywydd. Roedd y calch a fewnforid i Solfach yn cael ei losgi mewn odynnau yn y pentref a'i werthu wedyn i ffermydd ardal Tyddewi. Peidiwyd y gwaith ar ddechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf.

Pobl o Solfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Magwyd pêl-droediwr Cymru Simon Davies yn y pentre a'r canwr Meic Stevens, ysgrifennodd gân adnabyddus am y pentref, Ysbryd Solfa.

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod y dudalen]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6][7]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Solfach (pob oed) (865)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Solfach) (258)
  
30.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Solfach) (536)
  
62%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Solfach) (166)
  
42.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%
Solfach01LB.jpg

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Gwefan y Cynulliad; adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  3. Gwefan yr Ymddiriodolaeth Genedlaethol
  4. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  5. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  6. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  7. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013

Ffynhonnell[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Christopher John Wright, A Guide to the Pembrokeshire Coast Path (Constable, 1986)

Dolen allanol[golygu | golygu cod y dudalen]